Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/155

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

145 Wrth wenu arno, rhoes im' glwyf, A chwerwi fy nysgleidiau mae ; Er gwaetha'r byd, gobenydd gaf Esmwythach na dy ddwyfron di ; Mewn melus hedd gorphwyso wnaf Yn mynwes Naf, O gollwng fi. O gollwng fi , mae lleni'r nos, A'r holl gysgodau'n gado'r llawr ; Mi welaf dros y bryniau, dlos Wawr dirion tragwyddoldeb mawr Pinaclau heirdd Caersalem sydd Yn d'od i'r golwg yn ddiri ; Caiff f'enaid fyn'd o'i rwymau'n rhydd, Fe ddaeth yr awr, O gollwng fil O gollwng fi, mae teulu'r nef Yn dysgwyl wrthyf dd'od i'r ŵyl ; Fy mainge a drefnwyd ganddo ef, Mae tànau'r delyn oll mewn hwyl . Mae'r bwrdd yn llawn danteithion pêr, Y gwestwyr mewn addurnol fri ; A'r lampau fel dysglaerwych ser Yn harddu'r llys, O gollwng fi. O gollwng fi, mae cerbyd gwych O'r nefoedd wedi d'od i'm hol ; Dy ddagrau gloewon ymaith sych, Nawylafunudarfyol; Cei dithau'n fuan rodio'r glyn, A chroesi gorwyllt rym y lli ; Cawn fod yn nghyd ar Seion fryn, Bydd iach hyd hyn, a gollwng fi. K