BEDD Y DYN TYLAWD
Is yr ywen ddu ganghenog
Twmpath gwyrddlas gwyd ei ben,
Fel i dderbyn o goronog
Addurniadau gwlith y nen;
Llawer troed yn anystyriol
Yn ei fathru'n fynych gawd,
Gan ysigo'i laswellt siriol.
Dyna fedd y Dyn Tylawd.
Swyddwyr cyflog gweithdy'r undeb
A'i hebryngodd ef i'w fedd,
Wrth droi'r briddell ar ei wyneb
Nid oedd deigryn ar un wedd,
'Nol hir frwydro a thrafferthion,
Daeth i ben ei ingol rawd:
Noddfa dawel rhag anghenion,
Ydyw bedd y Dyn Tylawd.
Mae'r gareg arw a'r ddwy lytheren,
Dorodd rhyw anghelfydd law,
Gyd-chwareuai ag e'n fachgen,
Wedi hollti'n ddwy gerllaw;
A phan ddelo Sul y Blodau,
Nid oes yno gâr na brawd
Yn rhoi gwyrdd-ddail na phwysiau
Ar lwm fedd y Dyn Tylawd.
Ar sedd fynor nid yw'r Awen
Yn galaru uwch ei lwch,
A chyn hir drwy'r las dywarchen
Aradr amser dyna'i swch;
Un a'r llawr fydd yr orphwysfa,
Anghof drosti dyn ei ei hawd;
Ond er hyny angel wylia,
Ddaear bedd y Dyn Tylawd.
—IOAN EMLYN