Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

70 Hudoliaeth fo ar wefus pob geneth lan -galon Pawb fyddo'n meddwi mewn swynion a gloddest, A balchder a thlysni goroner â gorchest. Ond gwrandaw ar hanes y Sibsiwn Crwydredig, A'i loddest gor -rwysgawl mewn ' stafell urddedig ; Ei lampau pelydrawg yn nghrog o'r ffurfafen, A llygaid balch Nora yn gwatwar y seren ; Y corwynt a'r mellt yw ein gwahoddedigion, A'r daran yw'r seindorf o fewn ein gloddestion ; I delyn hoff Nora y dawnsiant y coedydd, A'i mwynlais a egyr amrantau y wawrddydd ; Fy anwyl hoff Nora, er mor iselfrydig, Mwy dedwydd na Brenin yw'r Sibsiwn Crwydredig. COWLYD . HIRAETH Y BARDD AR FEDD EI GARIAD . Pa orchwyl yw hyn ? 'rwy'n dychryn cyn dechreu ! Pa arwydd, pa eiriau ddefnyddiaf fi'n awr? ' Rwy'n sefyll yn syn yn ymyl glŷn ammhwyll, Mewn tewaidd niwl tywyll, heb ganwyll na gwawr ; Ces frathiad i'r fron, gyfoedion, claf ydwyf, Cledd einioes cladd ynwyf, tra byddwyf fi byw ; 'Does yn yr oes hon arwyddion o'r heddwch, Er maint yr hyfrydwch a'r harddwch bob rhyw. Ow ! gorwedd, trwm gwyn, mae'r addfwyn ireiddferch, Fe'm d'ryswyd o draserch i'r wenferch, mae'n wir; Tro'i hono, trwy hedd , ei bysedd mewn bwyserch, I lunio brith lanerch i'm hanerch, dro hir ; Ond heddyw trymhau, ' does geiriau o'r gweryd, ' Rwy'n goddef trwm adfyd tan benyd , tyn bwn ; Y glyd fynwes glau, a'r genau fu'n gweini, Y llynedd i'm lloni, sy'n tewi'r pryd hwn. Pan oeddym ni'n nghyd yn myd yr amodau, ' Roedd gwirod ei geiriau i'm genau fel gwin ; Er meddu hyn cy'd, trwy sengyd, troes angau ' R pêr aeron pur eiriau yn bläau trwm blin ; Mae'n gorwedd mun gain, yn gelain mewn gwaelod, Lle isel preswylfod ei hynod gorff hi ; A mwy o'r bedd main, mun desgain, wiw disgwyl, Ond llwch mynwent ERFYL mae'n anwyl gan i. Dolgellau DEWI WNION.