Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

71 NOS SADWRN Y GWEITHIWR. Pa beth a welaf ! -- gweithiwr draw , A chaib a rhaw mewn rhych, A phwys a thristwch byd , a'i wg , A'i gwnaeth yn ddrwg ei ddrych ; Ond er ei fod mor lwm i'w gael, Yn glytiog wael ei wawr, Nos Sadwrn deifl ei galed waith, A'i ludded maith i lawr. O gwel mor glytiog garpiog yw, Yn ceisio byw'n y byd ; Heb ond prin ddigon at ei draul, Yn nghysgod haul o hyd ; Ei gylla weithiau'n gwaeddi'n groch, Pob dimai goch ar goll ; Ond daw nos Sadwrn ; -gyda llôg Fe gaiff ei gyflog oli. Mae blina chaled waithy dydd, Hyd ffosydd gyda'r ffyrdd, Bron a gorlwytho'i babell frau, Mae dan ofidiau fyrdd : Pa’m mae'n gwirfoddoloddef dan Ei ffwdan ? adyn ffol ! Ah! maeeiolwgarrywlon Nos Sadwrn eto’n ol. Cyn codi'rhaul y borerhed, A'i fwyd a'r fasged fach, Pib fer yn cuddio rhan a'i mūg O’i wridog olwg iach ; Pan fyddo hunawg wyr mawr glod Ynbod heb symud bys, Bydd e'n llafurio'n ol ei drefn A phen a chefn yn chwys. Pa beth bob bore sy fel hyn Yn gyru'r dyn i'w daith, O hir filldiroedd gyda brys Anyddus at ei waith ;