Tudalen:Dyddgwaith.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddim sut i wneud bwyd na gosod bwrdd. Pe digwyddai fod y gwin yn sur yn Ffrainc neu'r coffi'n ddrwg yn Cairo (fel y byddant, weithiau) rhaid cofio y byddai dywedyd hynny'n beth mentrus, yn wyneb y sôn cyffredin, a dyna ddigon o reswm dros draethawd ar win Ffrainc neu goffi Cairo, yng nghywair profiad maith, a chwaeth ddisgybledig.

Os myn dyn ysgrifennu fel awdurdod ar y pethau hyn, diau mai peryglus iddo gwbl ym ddiried yn ei bythefnos. ei bythefnos. Gallech fentro ar Alwyddyn, efallai, ond y drwg yw, fel y deuthum fy hun i wybod, yn wir, bod parodrwydd i sgrifennu am wledydd estron yn mynd yn llai po hwyaf y trigo dyn ynddynt. Bydd perygl iddo gynefino â'i de, ei win a'i goffi cyn hir, a daw yn y man i wybod digon i wybod cyn lleied fydd ei wybodaeth wedi'r cwbl. Ac os cafodd rywdro gryn hwyl ar yfed te neu win neu goffi mewn lle oedd dieithr, wel, yr hwyl fydd y peth, nid y ddiod, o angenrheidrwydd.

Eto, nid yw hyn oll yn profi nad yw crwydro'n beth difyrrus, a buddiol, efallai—i'r crwydryn ei hun, o leiaf, hyd yn oed pan na chaffo fwy na phythefnos at ei amcan, canys diau y gwêl ambell