Tudalen:Dyddgwaith.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

un fwy mewn pythefnos nag a wêl llawer ohonom mewn dwy flynedd. Pwy a ŵyr beth a wêl y naill, a allai fod yn welwr da, gyferbyn â'r llall, a ddigwyddo fod yn ymadroddwr hwylus?

Cof gennyf glywed un Americanes dew, ar ôl bod yn edrych ar y Sphinx a'r pyramid mawr am y tro cyntaf, yn gofyn drwy ei thrwyn: "And what is there to be seen, after all?" ac yna'n troi gyda manyldeb digon greffig i fodloni'r beirniad llenyddol mwyaf synhwyrus, i ddisgrifio'r sidanau main oedd yn wardrob ei hannwyl gyfeilles y dduges Seisnig, rhai mor denau, mi dybiwn, â'r rhith niwl a fyddai, ar brydiau, yn gwisgo'r pyramidiau heb eu cuddio rhag golwg yr edrychwr. Beth pe gwelsai'r Americanes honno golofn unig o fwg glaswyn, bron cyn deneued â'r sidanau a wisgai'r dduges ar brydau neu mewn dawns, a'r golofn honno'n dringo'n araf o'r prysgwydd wrth odre llethr goediog ar lan gogledd. Affrig? Nid oes wybod na welsai hithau, nid y mwg, yn gymaint â rhyw ryfeddodau pendefig aidd a roesai daw am byth ar y barbariad o ddychmygwr a fuasai'n meddwl am hela yn y coed drwy'r dydd a chysgu allan wrth dân araf,