Tudalen:Emynau a'u Hawduriaid.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyf. VI, Rhif 2, td. 2-7.) Wrth gymharu Grawnsypiau Canaan, argraffiad 1805, ag argraffiad cyntaf (ac ailargraffiad) Hymnau o Fawl i Dduw ac i'r Oen, tueddwn i gytuno â damcaniaeth Mr. Lewis, ein hathro gynt.

Ni ddilynwn y cyfnewidiadau a wnaethpwyd ar yr emynau gwerthfawr hyn yn Diferion y Cyssegr. Bodlonwn ar ddwy enghraifft:

"F'enaid gwel y fan gorweddodd,
Pen brenhinoedd, Awdwr hedd;
Angau creulon wedi ei faeddu,
Cododd Iesu i fynu o'i fedd.
Y n y nef mae heddyw'n eiriol,
Dros ei bobl yn y byd;
Tra parhao oes dragwyddol,
Cenir am ei angau drud."

Ac wele gyfnewid o natur wahanol,

"O ddyfnderoedd iachawdwriaeth!
Dirgelwch mawr duwioldeb yw;
Duw y duwiau wedi ymddangos,
Y'ngnawd a natur dynolryw:
Bydd melus gofio y cyfammod,
Draw a wnaed gan Dri yn Un;
Tragwyddol syllu ar y Person,
A gym'rodd arno natur dyn."

Ysgrifennwyd cryn lawer am emynau Ann Griffiths, ac arnynt, a cheisiwyd diffinio neilltuolion meddwl ac enaid eu hawdur. Ni allwn ninnau onid ail—fynegi'r hyn a draethwyd eisoes mewn rhyw ffurf neu'i gilydd. O flaen popeth, canfyddwn ynddi drylwyredd ei chydnabyddiaeth â'r Ysgrythur Lân. Mwydasai ei henaid â'i chynnwys. Trôi hanes, ffeithiau, ac ymadroddion y Beibl yn alegorïau.

Nodwn un enghraifft o'r modd y llamai mewn un pennill o rannau o'r Ysgrythurau i rannau eraill ohonynt: Emyn 207, y pennill cyntaf, "Dyma babell y cyfarfod." Ecsodus xxvii. 21; xxix. 42; xxx. 20; xxxix. 32—40; xl. 6—35. . . .

"Dyma gymod yn y gwaed." Lefiticus xvi. 27; xvii. 11. . . .

Dyma noddfa i lofruddion." Numeri xxxv. 10—28. Cymharer Deuteronomium iv. 41—42.

"Dyma i gleifion Feddyg rhad." Mathew ix. 12 (Marc ii. 17; Luc v. 31). ...