Tudalen:Emynau a'u Hawduriaid.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dyma fan yn ymyl Duwdod." Ecsodus xxxiii. 21. "I bechadur wneud ei nyth." Salm lxxxiv. 3.

"A chyfiawnder pur y nefoedd,

Yn siriol wenu arno byth." Dichon bod Salm 1xxxv. 10: Diarhebion xvi. 15, ac Esaia xlii. 21, wedi llunio'r meddwl hwn yn ei chalon yn ddiarwybod iddi.

Yn gyffelyb i hyn, gellid dadansoddi amryw o emynau Ann Griffiths, a'i llythyrau, eithr gwna'r uchod y tro'n enghraifft o'i llamau.

Heblaw cydnabyddiaeth drwyadl â chynnwys yr Ysgrythurau, meddai'r wraig hon, er ieuanged oedd, ddirnadaeth glir o Athrawiaethau Gras, megis y deëllid ac y dysgid hwynt yn ei hoes hi, a gwëodd hwynt i'w hemynau, a rhoddi arnynt ddelw'i meddwl a'i phrofiad ei hun. Tra phell ydoedd o fynegi'r athrawiaethau hyn yn foelsych. Unwaith, tery ar ddehongliad Chalcedon o Berson Crist, a dichon mai Taith y Pererin a'i cyfleodd i'w henaid, sef ymadroddion Dewrgalon i Christiana a'i chwmni wedi eu dyfod i'r lle y syrthiasai baich Cristion oddi ar ei gefn, ac ymdreiglo i fedd. Eglura Dewrgalon iddynt pa gyfiawnder sydd gan Grist i'w roddi i bechaduriaid, ac ar y ffordd at hynny, dywaid, "Y mae ganddo [Crist] ddwy natur mewn un person, yn eglur i'w dosbarthu, yn amhosibl i'w gwahanu . . . y mae gan y Person hwn gyfiawnder a dardd o undeb y ddwy natur, y gellir yn briodol ei alw'n gyfiawnder hanfodol i'w baratoad gan Dduw i fod yn gymwys i'r swydd gyfryngol a ymddiriedwyd iddo." A chanodd Ann Griffiths:

"Dwy natur mewn un Person
Yn anwahanol mwy,
Mewn undeb heb gymysgu,
Yn eu perffeithrwydd hwy."

"O! f'enaid gwêl addasrwydd
Y Person rhyfedd hwn. . . .

(Dyfynasom o hen argraffiad o Daith y Pererin, cyffelyb, yn ddiau, i'r argraffiad a ddarllenid gan awdur yr emyn, yn hytrach na dyfynnu o gyfieithiad rhagorol y Parch. E. Tegla Davies.)

Ni allwn fyned heibio i gyfriniaeth Ann Griffiths er a ysgrifennwyd arno, canys dwg hi ddelw'r gwir gyfrinydd—nid yn unig yn ei dull alegorïaidd o feddwl a'i dawn i lunio alegori, megis y dengys ei llythyrau'n arbennig; eithr yn ei chanfyddiad ysbrydol, ei hamgyffred a'i dyhead. Gŵyr am y "puro ", y "gweled ", yr "undod neu'r undeb â Duw," a'r "ymgolli " ynddo, y sydd nodweddiadol o'r gwir gyfrinydd. Magwyd hi'n Brotestant, a Phrotestant Puritanaidd, ac y mae ei chyfriniaeth hi'n llai mympwyol, sentimental ac elfennol