Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/127

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fywyd y mae'r faint a wna yn dibynnu ar ei ynni ac ar ei gyfleusterau. Daeth cwmwl dros athrylith wyllt D. ab Gwilym o Fuallt, a bu farw'n un ar ddeg ar hugain oed. Y bywyd cyflymaf y gwn i am dano yw bywyd Ieuan Gwynedd; gymaint grynhodd i ddeuddeg ar hugain oed! gwaith ym Heber." Yn yr un oed y bu farw Ann Ceridwen Rees, y gyntaf o lu mawr meddygesau athrylithgar Cymru. Yn 38 y bu farw'r cerddor R. S. Hughes. Tybia'r rhai glywodd am hyawdledd ysgubol Robert Roberts Clynog chwithdod pan ychwanegir iddo farw'n ddeugain oed. Rhoddodd ei onestrwydd tryloyw, ei obaith byth-ieuanc, ei hoen iach a hoffus, gyfleusterau i Thomas Ellis wneud llawer; agorodd lygaid Gladstone i weled anghenion Cymru, ond bu farw cyn datguddio ei rym ei hun i wlad alarodd mor ddwys am dano; oherwydd nid yw deugain mlynedd, er yn ddigon i fardd ganu ar ei oreu, ond adeg fer a chynnar i wladweinydd. Ond torrodd Tom Ellis lwybr i eraill ddilyn ar ei ol, ac ni fu llais Cymru byth yn hollol yr un fath. O'r deugain i'r hanner cant oed y mae dynion yn meddu digon o brofiad y gorffennol i wneud cynlluniau, ac yn gweled y dyfodol yn ddigon maith i'w gwneud ar raddfa eang iawn; ond syrthiant yn eu nerth a'u bri. Bu Thomas Aubrey farw'n 41; dyna hefyd oedd oed Owen Jones y Gelli, y cyntaf o'r enw; gwelais yr ail yn batriarch. Bu farw Ioan Pedr yn 44, rhy ieuanc i hynafieithydd a daearegydd. Bu Glasynys farw'n 42; ac Alun yn 43, y ddau wedi cyrraedd perffeithrwydd eu Murmuron y Gragen" a "Marwnad Yn 42, hefyd, y bu farw Thomas Matthews, wedi gwneud gwaith arwrol, ac wedi torri llwybrau