Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/131

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mae dynion yn llawen fel rheol wedi cyrraedd eu trigain oed. Mae ystorm bywyd fel pe'n dechre distewi; yn lle gwaith ac ambell awr o seibiant cânt yn awr seibiant ac ambell awr o waith. Ac y maent fel pe dan addewid i gael deng mlynedd o'r hydref hyfryd hwn; mae miloedd o genedlaethau wedi cofio'r salm,-"Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae deng mlynedd a thri ugain." A chyn y daw hynny i ben, onid yw'r genedl yn darparu pensiwn i rai fu'n ysgrifennu traethodau a gwneud englynion am flynyddoedd am ddim?

Er hynny, wedi cyrraedd y trigain oed, ni cherddodd John Elias, Carnhuanawc, Eben Fardd, a David Saunders ond un flwyddyn ymhellach. A dwy gerddodd John Jones Talysarn, I. D. Ffraid, Idris Vychan, David Lloyd Jones, Owen Alaw, Daniel Owen, Joseph Parry, a Watcyn Wyn. Tair gerddodd Ellis Wynne o Lasynys, Lewis Morris Môn, Lewis Hopcin, Dafydd Ddu Eryri, Cynddelw, Gwilym Lleyn, Cynfaen, Tanymarian, T. C. Edwards a H. M. Stanley. Cerddodd Edward Richard Ystradmeurig a Thomas Jones o Ddinbych, Nathan Wyn ac Alaw Ddu bedair. Yn 66 oed y bu farw Morgan Rhys, Edward Jones Maes y Plwm, Caleb Morris, Nicander, Brinley Richards, David Charles Davies a Burne Jones. Yn 67 y bu farw Thomas Coke, Tegidon, a Buddug, yn dilyn ei brawd Golyddan a'i thad Gweirydd; ac yn 68, Michael Roberts Pwllheli, Richard Wilson, Gutyn Peris, Joseph Edwards, Caledfryn, Llyfrbryf, ac Elis Wyn o Wyrfai. Yn 69 bu farw Erfyl a Dafydd Morgan Ysbyty; a chyrhaeddwyd y ddegfed flwydd a thrigain gan Bedr Fardd, Gwynionydd,