Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

DYGWYL DEWI

"BETH a wisgwn heddyw?" "Beth a fwytawn heno?" Dyna ddau gwestiwn y Cymro ar fore Dygwyl Dewi. Yr ateb i'r ddau gwestiwn yw,—"Cenhinen. Ni a'i gwisgwn yn y bore, a ni a'i bwytawn hi yn yr hwyr." Ac felly fydd. Gorffwys y genhinen, yn oer ac yn werdd, ar fynwes y Cymro yn ystod y dydd; a gorffwys y genhinen, yn gynnes ac yn llipa, yn ei gawl yn y nos.

Yn fyfyriwr yn Rhydychen y clywais i sôn gyntaf erioed am wisgo cenhinen ar ddygwyl Dewi Sant. Nid wyf yn sicr a oeddwn wedi clywed sôn am genhinen fwytadwy o'r blaen; yr wyf yn berffaith sicr nad oeddwn wedi gweled un erioed. Os clywswn ei henw, yr enw hwnnw oedd "lecsen" a "lêcs." Clywais fod bechgyn Coleg yr Iesu yn gwisgo cenhinen ar ddygwyl Dewi. Yr oedd llu o Gymry ohonom mewn colegau eraill, megis Balliol, New, Brasenose, Oriel, ac Exeter. Penderfynasom wisgo cenhinen, a chawsom genhinen gelfyddydol, —ei gwraidd o edafedd arian a'i dail o ruban gwyrdd. Yr oedd hon yn ysgafn ac yn dlos, ond sham oedd, nhebig iawn i'r genhinen fawr a sawrus wisgid gan fechgyn Coleg yr Iesu, un fuasai'n arf defnyddiol mewn ffrae a ffrwgwd. Gofynnodd fy athraw i mi beth oedd, a chefais gyfle i ddweyd llawer o bethau ynfyd am ogoniant ein cenedl ni yn y gorffennol, a rhai pethau am ei dyfodol sydd erbyn hyn yn dechre dod yn wir.