Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Er fy mod yn hen ben cyn gwybod beth oedd cenin y gerddi, gwyddwn am flodeuyn arall wrth yr un enw. Ni thyfai hwnnw ychwaith mewn lle mor uchel a mynyddig a'm cartref i, ond gwyddwn am dano mewn dolydd a chymoedd is i lawr, mwy cysgodol. Yr oedd ysblander ei felyn a thynerwch ei wyrdd wedi llenwi'm calon â llawenydd laweroedd o weithiau, a rhoi edyn breuddwyd i'm meddwl godi i wlad o farddoniaeth anelwig ond pur. A phob tro y gwelaf genhinen Pedr eto, yn llonydd yng ngwyleidd-dra ei chyfoeth euraidd yn y cwm, neu'n dawnsio'n llon i chwiban gwynt miniog Mawrth ar y dolydd, aiff ias o lawenydd hyfryd trwy'm calon, cilia pryder a diffyg ffydd ymaith, ac ail ddeffry hen obeithion wna'm bywyd lluddedig yn llawn ac yn ddedwydd eto.

Pa un ai'r leek ynte'r daffodil yw cenhinen Cymru ?

Nid oes gennyf hawl i benderfynu. Bechgyn a merched y dyddiau hyn, rhai'n paratoi at wasanaethu eu gwlad yn y blynyddoedd sy'n ymyl, sydd i benderfynu. Ond maddeuer i mi am gynnyg awgrym neu ddau.

Prun o'r ddau flodeuyn adwaenir fel y genhinen? Yn y rhan o Gymru adwaenaf fi oreu, sef mynydddir uchel y Berwyn, cenhinen Pedr yw'r genhinen. Credaf mai dyna fel y mae yn Lleyn hefyd. Yr oeddwn yn teithio o Bwllheli i Fotwnog yn y gwanwyn diweddaf, a gwelwn dwmpath o'r blodau melynion croesawgar. Gofynnais i'r gyrrwr,—gŵr cydnerth Cymroaidd,—beth oedd enw'r daffodils yn Gymraeg. "Wel," meddai, heb betruso dim, "cenin y byddwn ni'n eu galw y ffordd yma."