Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond gwn mai'r leek sydd yn mynd i "gawl cenin " rhannau helaeth o Gymru.

Prun o'r ddau flodyn yw'r tlysaf? Ni allaf fi benderfynu. Y mae i'r leek ei thlysni. Y mae gwynder pur ei bron, amrywiaeth dymunol ei gwyrdd, a cheinder trofaog ffurf ei dail, oll yn ddiamheuol dlws. Clywais arlunwyr yn dweyd eu bod hwy yn hoffi lliw a llun y genhinen; ac y mae'n gain iawn, yn ddiameu, yn y darlun wnaeth Syr Edward Poynter o Ddewi Sant fel awgrym sut i addurno neuadd y Senedd. O'r ochr arall, pwy a wâd nad yw cenhinen Pedr yn un o'r blodau prydferthaf? Y mae'n gyfuniad o dlysni gwylaidd morwynig ac ysblander prydferthwch brenhines. Tlysni tyner a gwylaidd yw, ond a gogoniant yn fflamio ohono.

Prun o'r ddau flodyn sydd fwyaf nodweddiadol o'n cenedl ni? Llysieuyn dirmygedig yw'r leek yn llenyddiaeth Lloegr, peth gwylaidd ac isel ond defnyddiol. Llysieuyn gwerthfawr oedd y daffodil, yn ogoneddus ei ffurf a'i lliw, ac yn werthfawr fel meddyginiaeth. Yn ei ddarlun byw o bla 1625, rhydd yr Hen Ficer y meddyginiaethau gwerthfawrocaf mewn un pennill,—

"Ond pe ceit ti balm a nectar,
Cenin Peder, cerrig Besar,
Olew a myrrh, a gwin a gwenith,—
Ni wnant les heb gael ei fendith."

Cenedl wylaidd fu cenedl y Cymry'n ddiweddar, rhy lew a rhy lawen a rhy lariaidd"; ond yn awr y mae'n ennill ymddiried ynddi ei hun. thybia llawer fod y genhinen ddirmygedig yn