Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

prifysgolion i gyd, Paris neu Rydychen ddylai fod yn gyrchle i wr wedi graddio ym Mhrifysgol Cymru. Gobeithio y bydd llawer efrydydd o Gymro yn dod i ffafr prifysgolion dieithr eto, fel Gerallt Gymro gynt. A delent yn ol wedi eangu eu cydymdeimlad. Cymry'r gorwel eang sydd i godi eu gwlad.

Y mae'n debig mai dyna fel y mae ymhob oes,— y cawr yn niwl y dyfodol neu'r gorffennol, a'r corach yma gyda ni. Cofiwch fel y breuddwydiodd Rhonabwy, ar groen y dyniawed melyn yn yr hen neuadd burddu dal union, ei fod of a Chynwrig Frychgoch, gŵr o Fawddwy, a Chadwgan Fras, gŵr o Foelfre yng Nghynllaith, yn dilyn Iddawc Cordd Prydein ar ol byddin Arthur Fawr. "Padu, Iddawc," ebe Arthur, y cefaist y dynion bychain hynny?" "Mi a'u cefais, arglwydd, uchod ar y ffordd." A glâs wenodd Arthur. "Arglwydd," eb Iddawc, "beth y chwerddi di?" "Iddawc,' eb yr Arthur, "nid chwerthin a wnaf, namyn truaned gennyf fod dynion cyn fawed a hyn yn gwarchadw yr ynys hon, gwedi gwŷr cystal ag a'i gwarchetwis gynt."