Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dorri stori aniddorol yn fyr, i'r ffordd y tybiais i y dylwn fynd. Gadewais y mafon duon, i ddisgyn yn ddiddefnydd, mae'n ddiameu, i'r llawr; gwrthodais wahoddiad y ffrydlif, oedd megis yn codi dwylo gwynion arnaf o draw; ac yn hurtyn distaw, a'i falchter wedi ei dynnu i lawr, a'i ysbryd wedi ei glwyfo, cefais fy hun yn sefyll yn llwch y ffordd, yn edrych dros y clawdd bylchog ar y ffrwythau gwylltion gwaharddedig y bum yn meddwl am danynt ym misoedd hir y gaeaf. A daeth dau beth i fy meddwl.

Y mae'm cydymdeimlad i gyd gyda'r amaethwr, yn enwedig yr amaethwr bychan. Un felly oedd fy nhad. Gwn am ei serch angerddol at ei gartref, gwn am ei fywyd ymdrechgar a phur. Gwn mai'r cartrefi mynyddig hyn yw ffynhonellau goreu ein bywyd cenedlaethol. Gallwn feddwl pan yn sefyll ar y ffordd, fy mod wedi gwneud cymaint a neb o'm gallu a'm moddion i gadw amaethwyr Cymru yn ddiogel yn eu hoff gartrefi. Ond,— beth os try'r amaethwr yn orthrymwr? Beth os gwrthyd i eraill,—y llafurwr di-gyfoeth, y pererin lluddedig, y trefwr gwelw, ychydig o ffrwythau gwylltion y cloddiau, a mwynder llawen murmur yr afonig, a iechyd awel y mynydd? Os felly, pa well yw ef nag ystiward tordyn neu gipar hirgoes? Pe daethai'r meistr tir neu'r ystiward heibio, buasai groeso i mi o'r mafon, a gallaswn brofi hyd yn oed i gipar nad oeddwn yn gwneud dim drwg.

Y peth arall ddaeth i'm meddwl oedd nad yw'n ddoeth ar amaethwr gadw ymwelwyr draw o'r lle iach hwn. Talent am eu lle, am eu llaeth, am eu bara a'u hymenyn a'u cig, a byddai yntau ar ei fantais arnynt. Ond ni ddof fi byth yma