Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac ysgolheigaidd yn aros eto, a chynhydda o gynhaeaf i gynhaeaf. Gorwedd yma fel Arthur yn ei ogof, a'i farchogion o'i amgylch,—wele eu beddau hwythau'n llu gerllaw.

Bum yn ymgomio hyd ffyrdd y fro swynol, ers llawer o flynyddau, â phobl J. R. Jones. Bob blwyddyn dyfnheir yr argraff gyntaf wnaethant arnaf, fod tri nodwedd iddynt,—boneddigeiddrwydd, gonestrwydd, a gwybodaeth o'r Beibl. Dylaswn nodi y nodwedd olaf yn gyntaf, hwyrach, oherwydd mai hi yw sylfaen ac achos y lleill. Ac yma y mae eu blaenoriaid yn huno, a'r bugail yn eu mysg. Y mae'r fynwent ar y llechwedd fel gorffwysfa milwyr ac offeiriaid rhyw Urdd Ioan, wedi eu dydd o ymladd a gwaith, dygir hwy yma i huno gyda'i gilydd. Y mae'r cerrig yn hanes byw. Gorwedd hon ar fyfyriwr o Goleg Normalaidd Bangor, llanc o Ffestiniog, wywodd wrth hogi ei gryman ar gyfer cynhaeaf mawr,—

"Arwyddfan uwch gorweddfa—y diwyd
Owen Jones geir yma ;
Gŵr o addysg orwedda,
Ac un o deg enw da."

A chydag ef huna ei dad o'r un enw, "a alwyd yn dra sydyn," fel y gwneir yn y chwarelau ambell dro,—

"Tad hawdd ei hoffi, gwir serchog briod,
A hoff was Iesu, sy'n gorffwys isod;
Daeth oes o ymdrech yn erbyn pechod
Yn sydyn i derfyn.—gwaith yn darfod;
Ond gwyddai am gyfamod—a ddeil mewn bri
Yn hwy na meini cedyrn y Manod."

Dyma golofn i chwarelwr laddwyd yn chwarel Oakeley, "godwyd o barch gan ei gydweithwyr."