Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

YR YSGOL SUL

LAWER blwyddyn faith yn ol yr oedd tyrfa o amaethwyr a llafurwyr ar Green y Bala yn gwneud peth newydd iawn. Yr oeddynt yn penderfynu anfon mab amaethwr i'r Senedd i gynrychioli sir Feirionnydd, yn lle y gwŷr tir a'r gwŷr golud fuasai'n llais iddi cyhyd. A darlithient i'w gilyd oddiar lwyfa fod y gŵr ieuanc hwn yn meddu popeth gwerth ei feddu a feddai'r rhai fu o'i flaen, ac heblaw hynny wybodaeth dry lwyr am werin Cymru a chydymdeimlad perffaith â hi. Dywedent iddo fod yn ysgol oreu Cymru, yng ngholeg goreu Cymru, yng ngholeg boneddicaf Rhydychen, wrth draed y gwladweinwyr mwyaf selog a galluog.

Cododd un o wyr llafur Morgannwg, un oedd wedi rhoddi ei ffydd i'r gŵr ieuanc, ac un y disgwyliai y dorf am dano ers meityn. Gwefreiddiodd y dyrfa drwy ddweyd iddo ef orfod troi i'r Senedd heb awr o ysgol nac o goleg, heb ddim ond "yr hen Ysgol Sul."

Y noson honno bum yn cerdded yn ol ac ymlaen ar lannau Tryweryn gyda'r ymgeisydd, a synnai fod y glowr tanllyd yn awgrymu fod yr Ysgol Sul yn israddol i'r un ysgol yng Nghymru nac i'r un coleg yn Rhydychen.

Wedi deng mlynedd ar hugain o gynnydd yn addysg Cymru, teimlaf fod yr Ysgol Sul eto'n aros yn flaenaf un,—yn berffeithiaf mewn cynllun,