Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dawn, ac amrywiaeth tueddiad, fel haearn yn hogi haearn, yn fywyd ac yn ddiddordeb dosbarth. Ac ni raid i athraw, drwy drugaredd, fod o flaen pob aelod o'i ddosbarth yn yr holl bethau hyn, nag yn un o honynt.

v.—Profir effeithiolrwydd yr Ysgol Sul, nid drwy arholi unigolion, ond trwy ymweled â dosbarthiadau. Sicrha hyn ei rhyddid i bob ysgol. Trefna ei hun, gedy i bob dosbarth lunio ei ddull ei hun. A phan ddaw ymwelwyr, ceir awgrymiadau'n unig, a hanes ymgeisiadau ac arbrawfion ysgolion eraill.

vi.—Y mae i'r Ysgol amcan uchel, sy'n rhoddi iddi nod cyson, unoliaeth bywyd, a sicrwydd am lwybr datblygiad diogel. Nid beichio'r cof â gwybodaeth rhai eraill yw ei phrif amcan, ond defnyddio gwybodaeth i ddatblygu meddwl a chymeriad. Ei nod yw ACHUB pob disgybl i fywyd uwch. Nid ei hamcan pennaf yw dosrannu gwybodaeth yn drefnus ger ei fron, ond agor ei lygaid i weled. Deffry enaid, dadlenna fyd newydd; ei nod yw ail eni pob disgybl i weled teyrnas Crist. A'r nod uchel hwn yw sicrwydd llwyddiant yr Ysgol Sul. Ceidw hi'n fyw, yn effeithiol, yn gyfaddas i anghenion newydd a datblygiad uwch, genhedlaeth ar ol cenhedlaeth.