Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

syndod fod fy nghyfeillion Gwyddelig mor obeithiol, a'u gwerin heb fod wrth eu cefn. "Oni bai am y werin," ebe fi, "edwinai bywyd Cymru fel blodeuyn y glaswelltyn." Dywedais am groesaw'r werin i feddyliau Islwyn, danghosais gymaint yn iachach yw barn y werin na hyd yn oed barn eu harweinwyr, profais mai llais yn y diffaethwch fyddai llais gwladgarwr yng Nghymru oni bai am y werin. Ond nid oes gennym ni werin felly," oedd eu hateb, ac yr oedd yn amlwg nad oeddynt yn disgwyl un yn eu bywyd hwy.

Yn unigedd fy myfyrdod byddaf yn llawenhau wrth feddwl am werin Cymru, ac yn diolch i Dduw am dani, am ei ffyddlondeb a'i gonestrwydd, am ei hawydd i wneud yr hyn sy'n iawn, am ei chariad at feddwl, am gywirdeb ei barn, am dynerwch ei theimlad a chadernid ei phenderfyniad. Teimlaf yn fwyfwy bob dydd mai cenedl iach yw ein gwerin ni.

Ac yna daw cwmwl dros fy llawenydd. Ple mae ein huchelwyr, drwy gydol ein hanes, —yn esgobion a phendefigion, yn gyfoethogion a thirfeddianwyr? Maent bron bob un yn elynol, yn wrthnysig, neu'n fradwrus. Ymholais a mi fy hun a fedrwn gael o Gymru gwmni fel y cwmni llawen hwn. Na, cwmni i feirniadu ac i ameu, os nad i ddirmygu, fuasai cwmni o Gymry o'r un safle a'r rhain. Tosturiai'r Gwyddelod wrthyf finnau,"Os ydym ni heb werin yn nerth i ni, yr ydych chwi heb uchelwyr. Y mae eich cyfoethogion chwi yn gwaddoli colegau i anwybyddu eich hiaith ac i ddirmygu'ch cenedlgarwch, yr ydym ninnau yn ceisio codi'n gwerin i'r un tir a'ch un chwi."