Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

welswn erioed fynyddoedd mor dal, mor serth, mor ddieithriol, ac mor frawychus. Ac eto, yr oeddynt hwythau yn gwahodd,-"Tyrd i fyny yma, y mae awel eto sy'n fwy adfywiol na'r un deimlaist ti, a nef fwy gorffwysol." Ond i lawr yr oedd fy llwybr, drwy goedwig a chwarel; ac mewn myfyrdod a breuddwyd y dringais yr Elidir ac y chwiliais am Arthur.

Erbyn dechre Hydref y mae'r rhai fu'n ceisio gorffwys ar fynydd a môr wedi troi adref at eu gwaith. Cawsant fwy na gorffwys oddiwrth ludded; cawsant ysbrydoliaeth at y dyfodol. Byddant yn gryfach, yn fwy ffyddiog, ac yn well. Medrem wneud ar lai o chwareudai ac arlundai, a gwnawn ar lai o dafarnau a gwallgofdai, pe rhoddid modd i bawb ddod i gymundeb a'r mynydd. Teimlai'r gwan orfoledd iechyd, teimlai'r pryderus gryfder ffydd, teimlai'r trwmlwythog nerth cawr, teimlai'r diobaith mor lawn yw bywyd, wrth ffarwelio a'r mynyddoedd.