Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/184

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn yr anialwch fe'i temtiwyd i chwenychu; yn yr ardd i ofni; a thrwy chwant neu ynteu trwy ofn y temtir pawb i bob peth.

Temtasiwn i amau gair Duw oedd y Aaenaf; temtasiwn i gamarfer gair Duw oedd yr ail, a themtasiwn i wrthod gair Duw oedd y drydedd.

TIRIONDEB YR IESU

Onid tiriondeb yr Iesu a brofai ambell un ohonoch yn nhiriondeb cyfeillion yr Iesu?

TRAGWYDDOLDEB DUW

Y mae'r bywyd y mae Ef yn ei fyw yn wastadol yr un, ac er hynny nid bywyd llonydd yw ei fywyd. Nid tragwyddoldeb y mynyddoedd tragwyddol ydyw ci dragwyddoldeb Ef, ond tragwyddoldeb bywiol yn blodeuo gan ieuenctid anniflanedig.

FEL Y BYDDONT UN, FEL Y CREDO'R BYD

Ioan xvii 21. I ba ddiben y mae'r Iesu'n gweddïo am yr undeb ysbrydol hwn rhwng credinwyr? Fel y credo'r byd, ac y gwypo mai Duw a'i hanfonodd Ef. Os oes arnom eisiau profi i anffyddwyr ddwyfol anfoniad yr Iesu, a dwyn y byd ar fyr i gredu ynddo, trwy fod yn un â'n gilydd, trwy feddwl yr un peth, a'r un