Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y plisgyn a wnaed gan yr offeiriaid yn angenrheidiol ar y pryd i gadw'r cnewyllyn, canys fe fu'r rheolau manwl a chwanegasant hwy at gyfraith seml Moesen a'r proffwydi yn foddion effeithiol i ddiddyfnu'r genedl oddi wrth eilunaddoliaeth; ac yn wir, fe ellir dweud mai'r rheolau hynny a fu'n foddion i gadw'r Iddewon yn genedl wahanedig. Meddylier, er enghraifft, am y gwaharddiad i briodi estronesi. Fe fuasai hwn yn orchymyn llym ac afreidiol ar lawer adeg, ond yn amser Nehemia yr oedd yn orchymyn angenrheidiol; canys pe buasai'r dyrnaid o Iddewon a oedd wedi gweled yn dda ddychwelyd o Fabilon i'w gwlad eu hunain yn dechrau ymgymysgu trwy briodas â'r cenedloedd oedd o'u hamgylch, buan iawn y peidiasent â bod yn genedl, ac wrth beidio â bod yn genedl, hwy a gollasent eu crefydd, ac fe fuasai'r golled honno yn golled i'r holl fyd. Er mai crefydd gul ac anianol oedd crefydd yr Iddewon o'i chymharu â hen grefydd yr Israeliaid, eto yr oedd y grefydd honno, sef y grefydd Lefiticaidd, yn athro at Grist; am mai hyhi oedd yn gwneud genedigaeth Crist o had Dafydd yn beth posibl. Yr oedd hyd yn oed caethder y gyfraith hon yn tueddu i baratoi'r Iddewon mwyaf ysbrydol i dderbyn yr efengyl, sef perffaith gyfraith rhyddid. Yn wir yr oedd cyfraith yr Iddewon mor gaeth fel na allwyd ei chadw'n fanwl mewn un oes. Yr oedd y degymau mor fawr fel na