yn rhesymegol honni bod y Testament Newydd yn anffaeledig heb honni bod yr Eglwys hefyd yn anffaeledig mewn cyfnodau ac amgylchiadau neilltuol.
Ond y mae rhai rhannau o'r Beibl mor hynod am eu buddioldeb fel y dylai ymgeiswyr am aelodaeth eglwysig eu gwybod yn fanwl; hynny ydyw, gallu eu hadrodd air yng ngair: megis y Salmau sy'n dechrau fel hyn: Arglwydd, pwy a drig yn dy babell; Gwyn ei fyd y neb y maddeuwyd ei drosedd; Trugarha wrthyf, O Dduw; Ti Arglwydd fuost yn breswylfa i ni; Yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf; Fy enaid, bendithia'r Arglwydd; Arglwydd, chwiliaist ac adnabuost fi; a dwy neu dair o fân Salmau eraill mwy hysbys; y drydedd bennod o'r Diarhebion hefyd; y bennod o lyfr Esaiah sy'n dechrau fel hyn: Llefa a'th geg; rhannau o'r Bregeth ar y Mynydd; y drydedd bennod ar ddeg a'r bymthegfed bennod o'r Corinthiaid cyntaf.
Yr wyf yn barnu y byddai'n fuddiol i'r ymgeiswyr gydadrodd y pethau canlynol wrth gael eu derbyn, ac yn wir, nid wyf yn cofio i mi gymryd rhan mewn derbyn ond un ymgeisydd ieuanc erioed heb eu bod wedi gwneud cymaint â hyn, er na chawsent ond chwech neu saith wythnos i ymbaratoi: 1. Gweddi'r Arglwydd; 2. Y weddi foreol o'r drydedd salm; 3. Y weddi hwyrol o'r bedwaredd salm; 4. Y deg gorchym-