deyrniaeth yn amser y Siarliaid, a chymerwyd ef yn garcharor gan fyddin y milwriad Mytton pan gymerwyd Amwythig, Chwefror 22, 1644-5. Bu wedi hyny ar gêl dros y mor, lle yr ysgrifenodd, "The Tablet, or Moderation of Charles the First, martyr," yr hwn a argraffwyd wedi ei farwolaeth, yn 1661. Wedi dyoddef carchariad, a'i yru ar encil i Hague, yn Holland, gorfu arno fyned oddiyno i Virginia, lle bu farw yn 1662, cyn gwybod am adferiad Siarls II. (Walker's Sufferings of the Clergy; Meyrick's Dumo's Heraldry, Vol. i. 277.)
AERDEYRN, sant, i'r hwn yr oedd eglwys gynt wedi ei chysegru yn sir Forganwg; mab ydoedd i Gwrtheyrn, neu Vortigern, yr hwn a fu byw tua diwedd y bumed ganrif. (Cambrian Biography.)
AFAN BUALLT, sant, yr hwn oedd yn
byw yn y rhan flaenaf o'r chweched ganrif.
Yr oedd yn fab i Cedig ab Caredig ab Cynedda,
a Tegwedd, merch Tegid Foel, o Benllyn. Efe
oedd sylfaenydd Llanafan Fawr a Llanfechan,
yn nosbarth Buallt, yn Mrycheiniog. Cafodd
Eglwys Llanafan, Trawsgoed, yn sir Aberteifi,
hefyd ei sylfaenu ganddo ef. Claddwyd ef yn
Llanafan Fawr, lle y mae ei fedd-faen eto i'w
gweled. Meddylir ei fod y trydydd esgob
Llanbadarn; a chedwid ei wyl ef ar yr 16eg o
Dachwedd. (Rees's Welsh Saints.)
AFAN FERDDIG, oedd Fardd Cadwallon
ab Cadfan, brenin y Brythoniaid, yr hwn a
flodeuai yn y seithfed Ganrif. Nid oes dim yn
aros o'i weithiau. Cofnodir ef yn y Trioedd
fel un o'r "Gwaywruddion feirdd," o nodwedd
ryfelgar, yn groes i egwyddorion barddoniaeth.
Mewn un Trioedd cysylltir ef ag Aronan a
Dygynnelw, bardd Owain ab Urien; mewn un
arall & Tristfardd, bardd Urien Rheged a Dy-
gynnelw. (Myv. Arch. ii. 4, 64.)
AFAON, MAB TALIESIN. Canmolir ef
yn y Trioedd fel bardd, yr hwn a gymerodd
arfau er ainddiffyn ei wlad, ac a hynododd ei
hunan o dan lywyddiaeth Cadwallawn ab
Cadfan. Yn un Trioedd gelwir ef yn un o'r
"Tritharw unben;" y ddau ereill oeddynt
Cynhafal ac Elmur. Mewn rhai ereill, dar-
lunir ef gyda Gwallawg ab Lleanawg, a Selyf
ab Cyran Gorwyn fel y rhyfelwyr y rhai a
barhasant i ladd ar eu beddau er dial eu cam-
weddau. Trioedd arall a gofnoda ei farwol-
aeth gan Llawgad Trwm Bargawd, fel un o'r
"Tair anfad Gyflafan" Ynys Prydain. (Myv.
Arch. ii. 4, 9, 13, 14, 15, 69.) Cofnodir dy-
wediad o'i eiddo yn yr englynion clywed.
(Myv. Arch. i. 173.)-
"A glywesti a gant Afaon
Fab Taliesin gerdd gyfion ?
Ni chel grudd gystudd calon."
AFARWY oedd fab Lludd, brenin y Brythoniaid. Bu farw ei dad cyn iddo ddyfod i'w
oed. Cadwallon, ei ewythr, a gymerai arno y
llywodraeth; yr hwn a roddodd Llundain a
iarllaeth Kent i Afarwy, a Chornwal i'w frawd
Teneufan. Caswallon, ar ol brwydr fuddugoliaethus
ar y Rhufeiniaid, dan Cæsar, a wahoddodd yr holl benaethiaid i'w mawrygu, ac
aberthu i'w duwiau, a chael gwleddoedd
moethus. Yn ystod yr amser hwn dygwyddodd
yn anffortunus i Hirlas, nai y brenin, gael ei
ladd gan Cynheli, nai Afarwy, mewn ornest, yr
hyn a gynddeiriogodd y brenin i'r fath raddau
fel yr oedd yn benderfynol i'w ddwyn i brawf.
Afarwy yn ofni y canlyniad, efe a'i nai a
enciliasant o'r llys i'w diriogaethau ei hunan,
yr hyn a ddygodd Caswallon a'i alluoedd i
ymosod ar Lundain. Afarwy fel yma yn cael
ymosod arno a erfyniai gymodiad â'r brenin,
yr hyn a wrthodid. Yna efe a anfonodd i
wahodd Cæsar drosodd i'w gynorthwyo, gan
addaw ar yr un pryd ei gynorthwyo i ddarostwng y Brythoniaid i'r Rhufeiniaid. Ond ni
farnai Cæsar yn addas i ddyfod i Brydain ar
alwadau Afarwy yn unig, hyd onid anfonodd
efe ei fab a deuddeg ar ugain o feibion y penaethiaid drosodd fel gwystlau. Yna efe a
hwyliodd drosodd. Unodd Afarwy ag ef; a'u
cydunol alluoedd a orchfygasant Caswallon.
Afarwy heb ewyllysio i'r Brythoniaid fod yn
fwy darostyngedig i'r Rhufeiniaid, a wnaeth i
Cæsar yn anfoddlon i gytuno am heddwch ar
y telerau o fod treth o dair mil o aur ac arian i
gael eu talu yn flynyddol gan y Brytaniaid.
Yr haf canlynol, aeth Afarwy gyda Cæsar i
Rufein i wrthwynebu Pompey, lle yr arosodd
am rai blynyddau, ac yn ei absenoldeb, bu
farw Caswallon; a'i frawd ieuengaf, Teneufan,
a'i canlynodd i'r orsedd. Y fath yw sylwedd
hanes Afarwy yn y Brut Cymreig, wedi ei
ddyogelu yn y Myv. Arch. Yn y Trioedd 21
gelwir ef yn un o'r "Tri Carnfradwyr" ag
oedd wedi bod yn achos i'r wlad hon ddyfod
dan deyrnged i'r Rhufeiniaid.
AIDAN, dysgybl i St. Dubricius, yn Henllan, ar lanau yr afon Gwy. Yr oedd yn byw
yn y bumed ganrif; a chafodd ei benodi yn
rhaglaw esgob yn Ergyng, rhandir yn sir Henffordd, yn nheyrnasiad Cynfyn, mab Pebian,
brenin Ergyng. (Llyfr Llandaf.)
AIDAN, esgob Llandaf, yr hwn a roddwyd
i farwolaeth, gyda llawer o'i offeiriaid, pan
gafodd yr eglwysi eu hysbeilio gan y Sacsoniaid paganaidd, yn y flwyddyn 720. (Myv.
Arch. ii. 473.)
AILFYW, sant, yr hwn oedd fab Derden
a Danadlwen, merch Gynyr o Gaergawch.
Efe a flodeuodd yn y chweched ganrif, ac a
sefydlodd eglwys Llanailfyw, neu St. Elvis,
ger Tyddewi. (Bonedd y Saint, Rees's Welsh
Saints.)
ALAN, sant, yr hwn a anwyd yn Armorica.
Bu fyw oddeutu canol y ehweched ganrif. Yr
oedd yn fab i Emyr Llydaw. Wedi gadael ei
wlad enedigol efe a ddaeth yn aelod o goleg
Illtyd, yn sir Forganwg. Bu iddo dri mab,
o'r enwau Lleuddad, Llonio Lawhir, a Llynab,
y rhai oeddynt aelodau o'r un coleg, ac a
ddaethant yn addurniadau nodedig o'r eglwys
Gymreig.
ALAN (FORGAN,) tywysog, yr hwn a
laddwyd yn maes Camlan, O. C. 542, o herwydd
bradwriaeth ei wyr, y rhai a'i gadawsant
pan ar fyned i frwydr; o herwydd hyn cofnodir