Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwynt yn y Trioedd fel un o'r tri "Anaiwair Deulu," neu Dylwythau anffyddlon Ynys Prydain. Y ddau ereill oeddynt Llwythau Goronwy Befr, o Benllyn, a Peredur. (Gwel Myv. Arch. ii. 70.)

ALBAN, y Cristion cyntaf a ddyoddefodd ferthyrdod yn Mhrydain. Ganwyd ef yn Verulam, neu St. Alban, yr haner ddiweddaf o'r drydedd ganrif. Yn ol Mathew o Westminster, Thomas o Welsingham, ac awdurdodau ereill, ei rieni oeddynt Frythoniaid. Megys Aaron, o bosibl iddo fabwysiadu yr enw Albanus yn lle ei enw gwreiddiol Prydeinig, ar amser ei droedigaeth. Yn ei ieuenctyd efe a aeth i Rufain, yn cael ei ganlyn gan Amphibalus, a gwasanaethodd saith mlynedd yn myddinoedd yr ymerawdwr Dioclesian. Wedi iddo ddy- chwelyd adref, efe a sefydlodd yn ei dref enedigol, lle y bu byw mewn parch mawr hyd yr erledigaeth dan yr ymerawdwr hwnw. Yn y cyfryw amser yr oedd wedi ei ddychwelyd at Gristionogaeth gan Amphibalus; a rhoddwyd ef i farwolaeth yn y flwyddyn 303. Adroddir hanes ei ferthyrdod yn fyr gan Gildas, ond yn fwy amgylchiadol gan Bede, yr hwn a ddywed i Alban pan yn bagan, neu cyn ei bod yn gyffredinol wybodus ei fod wedi cofleidio Cristionogaeth, noddi Amphibalus yn ei dy. Wedi i'r ymerawdwr Rhufeinig glywed ei fod yn noddi Cristion, efe a anfonodd filwyr i'w ddal; ond Alban a osodai am dano wisg ei letywr, ac a gyflwynai ei hun yn ei le, a chafodd ei gymeryd o flaen yr ynad hwnw. Pan ddygid Alban o'i flaen, dygwyddai ei fod yn aberthu i'r duwiau; ac ar ei waith yn gwrthod cyduno yn y defodau, a chyffesu ei hun yn Gristion, gorchymynodd ar iddo gael ei ddienyddio yn uniongyrchol, pan y bu ei ymddygiad yn offerynol i ddychwelyd llawer o'r edrychwyr at Gristionogaeth. Torwyd ymaith ei ben ar y degfed dydd o Orphenaf. Gellir canfod hanes cyflawn o hono yn y gyfrol gyntaf o'r Biographia Britannica.


ALBANACTUS, oedd un o dri o feibion Brutus, oddiwrth yr hwn, fel y dywed rhai ysgrifenwyr, y cafodd yr ynys hon yr enw Prydain. Yn ol yr hanes, yr oedd Brutus yn frenin yr holl ynys; a chafodd ei wraig Inogen dri mab, Loerin, Camber, ac Albanact. I'r henaf y rhoddodd efe ganolbarth, a'r rhan oreu, a elwir oddiwrtho ef, Lloegria; yr hwn enw a roddir i'r wlad gan y Cymry hyd heddyw. Yr ail fab a gafodd Cambria, a elwir yn bresenol Cymru; a'r ieuangaf, Albanact, a gafodd i'w ran ef yr holl wlad i'r gogledd o'r Hymber. Yr oedd hyn rai blynyddau cyn marwolaeth Brutus, yr hyn a ddygwyddodd yn y flwyddyn 1114 cyn Crist. Am rai blynyddau llywyddai y tri eu priodol wledydd mewn heddwch a llwyddiant; ond o'r diwedd Humber, brenin yr Huns, a oresgynodd lywodraeth Albanact gyda byddin gref, a'i lladdodd, ac a yrodd ei bobl ar ffo am gysgod i Loegr. Efe, er dialu marwolaeth ei frawd, a gasglodd ei alluoedd, ac wedi cwrdd a'r goresgynwr, yr hwn yn awr oedd wedi cyraedd ei diriogaethau ef, a'i gorchfygodd, ac yn ei ffoedigaeth efe a'i gyrodd i afon, lle y boddodd, a'r hon a elwir oddiwrtho ef, Hymber. Cymerodd hyn le oddeutu 1104 cyn Crist; ac oddiwrth Albanact gelwid y rhan ogleddol o'r ynys hon, Alban. Adroddir yr holl hanes yn dra manol yn y Brut Cymreig, a chan Geoffrey o Fynwy; ond y mae yn gwbl anghydweddol à hanesiaeth, a thraddodiadau boreuaf y Cymry. Gellir canfod ysgrifenwyr ereill yn traethu yr un chwedl yn y gyfrol gyntaf o'r Biographia Britannica.


ALED (TUDUR) oedd fardd enwog, yr hwn oedd enedigol o sir Dinbych. Yr oedd yn byw yn Garth Geri, yn mhlwyf Llansanan, trwy ba un y rhed yr afon Aled, oddiwrth yr hyn y cymerai ei enw. Yr oedd yn fynach o urdd Dominic. Y mae llawer o'i ganiadau yn cael eu dyogelu yn barhaus mewn ysgrifen. Yn eu plith y mae hanes y gwyrthiau a gyflawnwyd gan ffynon St. Winifred, yn gystal a hanes dychymygol y sant hwnw. Yr oedd hefyd yn un o ganlynwyr Syr Rhys ab Thomas, o Dynefor, wrth yr hwn y mawr ymlynai, ac mewn clod i orchestweithiau yr hwn y cyfansoddodd amryw ganiadau. Tudur Aled a flodeuodd o'r flwyddyn 1480 i 1520. Yr oedd yn nai a dysgybl i Dafydd ab Edmund, ar farwolaeth yr hwn y cyfansoddodd farwnad, yr hon yn nghyd ag ychydig o rai ereill o'i ganiadau sydd wedi eu hargraffu yn "Ngorchestion Beirdd Cymru," gan Jones.


ALMEDHA, sant, yr hon oedd yn byw yn y rhan flaenaf o'r bumed ganrif. Yr oedd yn un o ferched lluosog Brychan, tywysog Deheudir Cymru; a gelwir hi rai gweithiau Elevetha, ac Aled; ac yn rhestr plant Brychan yn y Myv. Arch., gelwir hi Elmed. Giraldus Cambrensis a sonia am dani dan yr enw Almedha, a dywed ei bod o'i hieuenctyd yn gyflwynedig i grefydd, ac wedi gwrthod llaw tywysog yr hwn a'i ceisiai mewn priodas, hi a ymorfoleddodd mewn merthyrdod dedwydd. Hi a ddyoddefodd ar ben bryn a elwir Penginger, ger Aberhonddu, lle yr adeiladwyd eglwys wedi hyny, yr hon a gysegrwyd iddi hi; a chedwid ei gwyl ar y cyntaf o Awst gyda difrifoldeb mawr. Byddai lluoedd o bobl yn dyfod yn nghyd o gryn bellder, y rhai a flinid gan wahanol glefydau, a dysgwylient dderbyn iachad trwy haeddiant Mair Fendigaid. (Gwel Hoare's Giraldus, i. 35.)


ALO, tywysog Powys, yr hwn oedd benaeth un o bump llwyth gwerinol Cymru; y lleill oeddynt Gwenwys, Blaidd Rhydd, Adda Fawr, a Heilyn Ysteilfforch, o Forganwg.


ALON, sydd enwog yn y Trioedd, fel wedi bod y cyntaf, yn nghyd a Plennydd a Gwron, i ddwyn breiniau a defodau barddoniaeth i gyfundrefn dan nawdd y genedl. Yn ol un hanes gosodir hwynt allan yn amser Prydain ab Aedd Mawr, yn mysg trefedigwyr cyntaf yr ynys hon; tra y dywed arall eu bod yn byw yn amser Dyfnwal Moelmud. Dr. Owen Pugh, yn ei "Cambrian Biography," a ystyria ei bod yn debygol mai yr un person ydoedd ag Olen, Olenus, Ailinus, a Linus, yn mysg y Groegiaid, oddiwrth yr amgylchiad fod yr un