Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

brwydr waedlyd Cattraeth, rhwng y Prydeiniaid a'r Sacsoniaid, pan orchfygwyd y blaenaf a lladdfa fawr, fel mai allan o dri chant a thri ugain a thri o benaethiaid Prydeinig. dim ond tri yn unig a ddiangasant yn fyw, un o ba rai oedd Aneurin. Cymerwyd ef wedi hyny yn garcharor, llwythwyd ef â chadwynau, a thaflwyd ef i'r ffau, o'r lle y rhyddhawyd ef gan Ceneu, mab Llywarch Hen. Brwydr ddinystriol Cattraeth a achosodd fudiad niferi o'r Prydeiniaid Gogleddol at en cenedl berthynasol yn Nghymru; a dywedir i Aneurin gael noddfa yn ngholeg rhagorol Cattwg, yn Neheudir Cymru, lle oddeutu 570, y cafodd ei ladd yn fradwrus gan Eiddin. (Myv. Arch., ii. 65.) Brwydr Cattraeth yw testun cân wronaidd, gan Aneurin, yr hon sydd eto ar gael. Y mae y gwirionedd o hyn wedi ei brofi tu hwnt i bob amheuaeth gan Sharon Turner, yn ei "Amddiffyniad hen Ganiadau Prydeinig: Llundain, 1803." Gelwir y Gan fawreddog hon, "Y Gododin," ac ystyrir hi gan y beirdd Cymreig yn mhob oes yn brif waith, neu brif gynllun ardderchogrwydd mewn barddoniaeth. Dywed y Dr. W.O. Pugh yn ei Cambrian Biography, mai yr un person oedd Aneurin a Gildas. Y mae yn sicr mai nid enw Prydeinig yw Gildas, ond mewn gwirionedd mai cyfieithad Sacsonaidd yw o Aneurin, yn ol yr arferiad ag oedd yn gyffredin yn y canol oesau. Gan fod enw Gildas yn cael ei adael allan o'r hen ysgrifeniadau sydd yn haeru mai mab Caw oedd Aneurin, a bod enw Aneurin yn cael ei adael heibio yn yr ysgrifeniadau sydd yn dangos fod Gildas yn fab Caw, rhai a dybiant mai yr un person dan wahanol enwau oedd Gildas ac Aneurin, ac mai enw a roddid iddo fel dysgawdwr oedd Gildas. Y mae llawer o wahaniaeth rhwng egwyddorion awdwr y "Gododin " ag egwyddorion Gildas dduwiol. Y mae yn fwy rhesymol gan hyny i feddwl mai gwahanol bersonau, oeddynt oddieithr cael allan i'r "Gododin" gael ei gyfansoddi pan oedd yr awdwr yn ieuanc, ac yn dueddol i baganiaeth, ac i'r llyfr a elwir Gildas gael ei ysgrifenu wedi iddo gael ei egwyddori yn gyflawn yn athrawiaethau y grefydd Gristionogol.

ANGAR, un o feibion Caw, a rhyfelwr nodedig, yn nechreu y chweched ganrif. Cofnodir dywedial o'i eiddo yn Englynion y Clywed, (Myv. Arch., i. 173.)

"A glywaisti a gant Angar
Mab Caw, milwr clodgar,
Bid ton calon gan galar."



ANGHARAD (DON FELEN,) neu gyda'r croen melyn, sydd glodfawr yn y Trioedd, fel un o dair Gorhoyw Riein Ynys Prydain. Y ddwy arall oeddynt Annan a Perwyr. (Myo. Arch., ii. 16.)


ANHUN, neu ANNUN, santes, oedd yn byw yn y bumed ganrif. Hi oedd llawforwyn Madrun, gwraig Ynyr Gwent, a merch Gwrthefyr, neu Fortimer. Dywedir iddi, mewn cysylltiad a'i meistres, sylfaenu Eglwys Trawsfynydd, yn sir Feirionydd.


ANIAN, oedd y 13eg archesgob Tyddewi, yn canlyn Cledawg. Yr oedd yn byw yn y rhan olaf o'r wythfed ganrif.


ANNA, merch Gwrthefyr, a gwraig Gynyr, o'r hon y cafodd Non mam Dewi Sant. Yr oedd yn byw yn y bumed ganrif.


ANNA, merch Meurig ab Tewdrig, tywysog Morganwg. Priododd ag Amwn Ddu, i'r hwn yn ei henaint y dygodd ddau o feibion, Samson, archesgob Tyddewi, a Tathan, yr hwn oedd enwog mewn daioni. Hi a fu byw tua diwedd y bumed ganrif. (Llyfr Llandaf.)


ANNAN, merch Maig Mygotwas, a gofnodir yn y Trioedd fel un o'r Tair Gorhoyw Riein Ynys Prydain. Y ddwy arall oedd Angharad a Perwyr. (Myv. Arch. ii. 16.)


ANNO, enw yr hwn mewn rhai ysgrifau yw Amo, oedd sant, i'r hwn y mae eglwys Llananno, yn sir Faesyfed, wedi ei chysegru, hefyd Newborough, yn Mon, yr hon gynt a elwid Llananno. (Bardd y Saint.)


ANWAS (ADEINIOG,) un o ryfelwyr y brenin Arthur, yr hwn o bosibl a dderbyniodd yr enw hwn oddiwrth gyflymdra ei farn. Gan rai modd bynag, ystyrir efo nodwedd ffugiol. Ymddengys ei enw mewn cân gywrain, o ddyddiad borea; ond nid yw yr awdwr yn adnabyddus, yn cynwys ymddiddan rhwng Arthur, Cai, a Glewlwyd, yr hon a gedwir yn y Myvyrian Archaiology, i. 167. Enwir ef hefyd yn nghyd â rhyfelwyr ereill i Arthur, yn y Mabinogi, Kilhwch ac Olwen, tudal. 259.


ANWYL, ELLIS, ydoedd fardd yn Meirion tua chanol yr 16 ganrif. Y mae englynion o anerchiad o'i eiddo yn gysylltiedig & chyfieithad o Ystyriaethau Dietelius ar dragywyddoldeb, gan Lewis Ellis, o'r Llwyngwern, yn sir Feirionydd, a gyhoeddwyd yn y flwyddyn 1661.


ANWYL, MORRIS, ydoedd fab i Robert Anwyl, o'i wraig, Margaret Owen; ac efe a anwyd Ebrill 16, 1814, yn y lle a elwir Dinas Moel, gerllaw Beddgelert. Yr oedd efe yn hanu o du ei dad, o dylwyth Dafydd Nanmor, i'r hwn, meddir, y rhoddes Rhys Goch, o Hafod Garegog, dyddyn bychan, o'r enw Cae Dafydd, yn etifeddiaeth; ac o du ei fam, o dylwyth Hafod Lwyfog, yn mhlwyf Beddgelert. Nid oedd rhieni Morris Anwyl yn aelod- au eglwysig pan aethant i'r sefyllfa briodasol; ond yn mhen tua phum mlynedd ar ol priodi, bwriasant eu coelbren yn mysg pobl yr Arglwydd, ac felly dygasant eu plant i fyny dan addysg grefyddol. Yn mhen rhyw gymaint o amser ar ol priodi, symudodd Robert Anwyl i gyfaneddu ar ei hen dreftadaeth, Cae Dafydd Nanmor, ac yno y bu cartref Morris tra bu efe byw. Er i Morris Anwyl gael ei fagu yn yr eglwys, pan ddaeth efe yn alluog i fyw arno ei hun, fel y dywedir, efe a gefnodd ar eglwys Dduw, gan wenieitho iddo ei hunan y mwynhai lawer mwy o hyfrydwch, wedi cael ei ben yn rhydd o dorch llywodraeth eglwysig. Ond mewn rhyw adfywiad crefyddol lled rymus a gymerodd le yn fuan wedi hyny yn y Rhyd Ddu, daliwyd yntau, a "than gerdded ac wylo," efe a ymofynodd am aelodaeth gyda