Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

phobl yr Arglwydd. Dylynai alwedigaeth mwnwr y blynyddoedd hyny, gan weithio weithiau yn nghymydogaeth Beddgelert, ac weithiau yn nghymydogaeth Ffestiniog. Yn ei gymydogaeth gartrefol, Nanmor, y dechreuodd efe bregethu; a hyny trwygymhelliad taer yr henuriaid eglwysig yn y lle; ac mewn angladd yn y gymydogaeth hono y traddododd efe y bregeth gyntaf. O ran ei dymer naturiol, yr oedd o duedd dawedog a gwylaidd; ond o feddwl tra phenderfynol. Efe a fu dros ryw dymor yn athrofa y Bala; a thra fu yno, aeth ryw noswaith i bregethu i amaethdy ychydig o'r dref; ac fel yr oedd yn myned tua'r lle, gan ei bod yn gwlawio yn drwm efe a wlychodd yn ddirfawr; a thra yr ydoedd yn pregethu yn y dillad gwlybion hyny efe a deimlodd boen tost-lym yn cymeryd gafael yn ei fraich, fel pe ei gwanesid ag arf. Yn mhen ychydig symudodd y boen o'i fraich i'w ystlys; ac ni chafodd ymwared o'i boen yma hyd oni therfynodd yn ei angeu. Yn y canlyniad i'r anhwyldeb yma, efe a ddychwelodd o'r Bala yn gynt nag y bwriadai ar y dechreu; a chymerodd dyddyn o'r enw Tanyrhiw, Nanmor; a thrwy y blynyddoedd olaf o'i fywyd efe a fu yn dra diwyd a gweithgar gydag achos crefydd yn yr ardal; sefydlodd fath o ysgol nos i bobl ieuainc yr ardal; a cherddai o Danyrhiw i Gapel Peniel unwaith bob wythnos am oddeutu deunaw mis, i gyfarfod y bobl ieuainc, i'w hyfforddi mewn ieithyddiaeth, &c.; a rhoddai destunau iddynt i gyfansoddi traethodau, trwy yr hyn yr oedd efe yn cael mantais i'w symbylu i feddwl, a'u hymarfer i wisgo y meddwl hwn mewn iaith drefnus; a gadawodd yr ymdrech yma o'i eiddo ei ol ar yr ardal na ddileir yn yr oes hon. Yr oedd efe yn feddianol ar ddawn neillduol i gyfranu addysg; os byddai rhyw un yn rhoddi ateb cyfeiliornus iddo, ni ddywedai yn uniongyrchol wrtho ei fod yn cyfeil- iorni; ond efe a arweiniai y dysgybl yn ddiarwybod iddo ei hun yn rhywfodd, i safle o'r hon y gwelai efe ei gyfeiliornad yn eglur, ac megys o hono ei hunan. Efrydydd diflin, a gweddiwr dyfal iawn oedd Morris, pan yn gweithio yn galed yn y cloddfeydd ar hyd y dydd, efe a dreuliai oriau yn ei ystafell ddirgel wedi noswylio yn wastadol, ac yr oedd ei Dad yr hwn sydd yn gweled yn y dirgel, yn gofalu am dalu iddo yn yr amlwg. Yr oedd ei bregethau yn gyffredinol o arwedd ddifrifol, a thra sylweddol. Yr oedd golwg dra gobeithiol gan ddynion craff arno, ei fod yn debyg o ddyfod yn athrawiaethwr cadarn; ond efe a gymerwyd ymaith gan y darfodedigaeth twyllodrus yn ieuanc; canys efe a hunodd yn yr Iesu, Awst 12, 1846, yn 32 oed. Yr oedd ei rodiad diargyoedd, ei weddïau taerion, a'i lafur egniol, yn nghyd a'i brofiadau uchel o bethau ysbrydol, yn ei hynodi fel Cristion; ac yr oedd nertholrwydd ei enaid i dreiddio i mewn i ddirgelwch yr efengyl, yn nghyd a'i ddawn nodedig i osod cynyrch ei fyfyrdodau ger bron ei gyd ddynion, yn ei hynodi fel cenad dros Grist.

ANWYL, PARCH. EDWARD, oedd fab i Owen ac Ann Anwyl, o'r Ty'nllan, Llanegryn, yn sir Feirionydd, lle y ganwyd ef yn Ebrill, 1786. Ymunodd a'r Wesleyaid pan ymwelodd eu gweinidogion fel cenhadon gyntaf a'r gymydogaeth, yn y flwyddyn 1804. Daeth yn fuan yn ddyn o aylw, trwy ei sel, grym naturiol ei feddwl, a pharodrwydd ei ymadroddion, ac anogwyd ef i arfer ei ddawn yn gyhoeddus yn 1808. Bu wedi hyny yn cadw ysgol Gymraeg yn Mhenrhyndeudraeth. Ychydig fisoedd y bu yno; canys oblegyd diffyg llafurwyr yn y blynyddoedd boreuaf hyny ar Wesleyaeth Gymreig yn y Dywysog- aeth, galwyd ef i'r weinidogaeth amdeithiol yn Awst y flwyddyn hono. Maes cyntaf ei lafur oedd Mon. Yr oedd yn selog, hyf, a gwrol. Yn 1814, priododd ag un Miss Mathews, o Drelai, Morganwg, a bu iddynt 11 o blant. Yr oedd o gyfansoddiad cryf, esgyrnog, gydag ychydig iawn o gnawd, yr hyn oedd yn ei alluogi i fyned trwy y llafur caletaf mewn teithio ar ei draed, a phregethu, heb unrhyw anfantais gweledig, er cerdded 50 milltir mewn diwrnod. Yr oedd yn ddarllenwr mawr, a chanddo gof cryf digyffelyb i gadw yn ei feddwl yr hyn a ddarllenai, ac yn ei wneud yr hanesydd goreu yn y Dywysogaeth am holl wledydd y ddaear a'u trigolion, ac yn ei wneud yn gyfaill difyrus yn mhob cyfeillach. Yr oedd fel duwinydd yn feddyliwr dwfn a goleu, ond yr oedd ei gyfansoddiadau gweinidogaethol yn dangos esgeulusdra trefn, yr hyn oedd ei unig fai. Bu yn ymdeithio o le i le yn Nghymru, yn ol trefn y cyfundeb, mewn modd rheolaidd, hyd y flwyddyn 1854, a llawer o'r blynyddoedd diweddaf yn gadeirydd talaeth Gymreig Gwynedd, pan enciliodd o'r gwaith rheolaidd, ac aeth i renc y gweinidogion hen a methedig. Anrhegwyd ef gan ei gydweinidogion yn y dalaeth a'i bortread a swm o arian, ar ei ymneillduad o'r ymdeithiaeth. Bu wedi hyny yn cyfaneddu yn Rhythun a Threffynon, a bu farw yn y lle olaf mewn llawn fwynhad o'r gobaith gwynfydedig, Ionawr 23, 1857, yn 71 oed. Nid ydys yn gwybod iddo gyhoeddi dim erioed trwy y wasg, oddieithr y gwelir ei enw wrth rai erthyglau yn yr Eurgrawn Wesleyaidd er yn lled anfynych—ar hyd holl flynyddoedd ei oes, o sefydliad cyntaf y cyfnodolyn hwnw. (Eurgrawn Wesleyaidd, 1858, tudal. 101, 109, 146.)


ANWYL, PARCH. LEWIS, ydoedd weinidog plwyf Ysbyty Ifan, yn sir Dinbych, yn y flwyddyn 1740. Symudodd i ficeriaeth Abergele yn 1742, gan gymeryd ei anedd yn Nhyddyn Forgan. Pan oedd yn Ysbyty, efe a roddodd allan y llyfrynau canlynol:—1. "Y Nefawl Ganllaw, neu yr uniawn ffordd i fynwes Abraham; mewn ychydig o ystyriaethau eglur i gyfarwyddo y cyfeiliornus i'r porthladd dymunol hwnw. Gan L. A., gweinidog o eglwys Loegr. Argraffwyd yn yr Amwythig, gan R. Lathrop, dros Dafydd Jones." 2 "Myfyrdodau Wythnosol, sef myfyrdod am bob dydd yn yr wythnos, yn enwedig amser y Grawys; wedi eu cyfieithu yn benaf er mwyn addysg y tlawd, yr hwn nad oes iddo foddion i gyraedd llyfrau gwell; yn nghyda cholectau, gweddiau, a geiriau llesawl ereill." 3. "Cyngor yr Athraw i