Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rieni, yn nghylch dwyn eu plant i fyny, yn cynwys rhai meddyliau neillduol ar y testun hwnw, wedi eu cyfansoddi a'u cymhwyso i'r deall gwanaf; yn nghyda a Rhagymadrodd, yn dangos mor esgeulus yw rhieni yn gyffredinol am roddi meithrin syberlan i'w plant." Cyhoeddwyd y tri uchod yn un llyfr lled gryno —ond fod rhagddalenau gwahanol iddynt o tua 150 o dudalenau. Wedi symud i Abergele, efe a gyhoeddodd, oddeutu y flwyddyn 1756,"Hyfforddiadau eglur i'r ieuainc a'r anwybodus; yn cynwys eglurhad hawdd a chryno o Gatechism yr Eglwys, wedi ei gymhwyso i ddeall a choffadwriaeth y rhieni o'r synwyr iselaf: gan esgob Synge. Ac wedi ei gyfieithu o'r seithfed argraffiad, gan L. Anwyl, ficar Abergele. Amwythig: argraffwyd gan T. Durston." Efe a fu farw yn 1776, a chladdwyd ef ger llaw y bedyddfaen, yn eglwys y plwyf hwnw, Chwefror 27, 1776. (Cofrestr plwyf Abergele.)

ANWYL, WILLIAM, ydoedd wr o sir Dinbych, gan yr hwn y cafodd Thomas Jones, argraffydd yn yr Amwythig, y llyfr canlynol, "Ymadrodd gweddaidd yn nghylch diwedd y byd; neu dueddiad at yr amser y dygwydda dydd y farn; yn cynwys hefyd fwy na dau cant o englynion duwiol, o erfyniad am drugaredd, yn ol dosbarth y prif feirdd, wedi i'r postfeirdd, rhag eu llygru, eu rhoi allan mewn cerdd, i'w cadw mewn parch. Argraffwyd yn yr Amwythig, ac ar werth yno gan Thomas Jones, yn yr hwylfa a elwir Mr. Hill's Lane." Y mae iddo ragymadrodd "at y darllenwr," gan Thomas Jones, lle y dywed, "Yn y flwydd— yn o oed Iesu 1700, gwr boneddig o sir Dinbych, (sef Mr. William Anwyl,) a roddodd y corff yn ysgrifen o law deg i mi, i'w argraffu, os gwelwn yn dda; ac a ddywedodd wrthyf ei gael ef yn mhalas Syr Richard Wynne, (sef yn Ngwydyr, yn sir Dinbych,) ar ol marw Syr Richard Wynne. Ond ni wyddai ef pwy oedd yr awdwr, na pha bryd yr ysgrifenwyd ef. Nid oes mo enw yr awdwr wrth y gwaith." Maint y llyfr yw 64 tudalen 12 plyg. Y mae ynddo heblaw rhyddiaith, 101 o "Englynion erfynied am drugaredd."


ARAU, un o feibion Llywarch Hen, yr hwn y sonir ganddo yn anrhydeddus am dano yn yr alargan am ei henaint. Gweler y penillion yn tudal. 141 o alarganau arwrol Owen.


ARDDUN, gwraig Catgor ab Collwyn, clodfawr yn y Trioedd, fel un o "Dair diweirwraig Ynys Prydain." Y ddwy arall oeddynt Efilian ac Enerchred. (Myv. Arch., ii. 73.)


ARDDUN (BENASGELL,) oedd yn byw yn y chweched ganrif. Merch ydoedd i Pabo Post Prydain, yr hwn ar ol colli ei diriogaethau yn Ngogledd Lloegr trwy ymosodiadau parhaus y Sacsoniaid, a ymneillduodd i Gymru. Yr oedd Arddun yn briod a Brochwel Ysgythrog, tywysog Powys, i'r hwn y dygodd Tysilio. Ystyrid hi gan rai yn mysg y seintiau Cymreig; ond nid oes eglwysi yn cael eu galw ar ei hol; er fod Dolarddun, cwmwd yn mhlwyf Castell Caereinion, sir Drefaldwyn, yn dwyn ei enw oddiwrthi.


AREGWEDD (FOEDDIG,) oedd ferch i Afarwy ab Lludd. Y mae wedi ei chofnodi yn y Trioedd fel wedi bod yn achos bradwrus o gaethiwed Caradog; yr hwn ar ol ei orchfygiad gan y Rhufeiniaid dan Ostorius, yn y flwyddyn 51, a ffodd ati am noddfa, a hi a'i traddododd ef i'w elynion mewn cadwynau. Yr oedd yn frenhines y Brigantiaid, ac yn ddynes o nodwedd halogedig; oblegyd dianrhydeddodd Venatius, ei gwr, trwy syrthio mewn cariad â Velocatus, un o weision ei gwr. Cymerodd rhyfel cartrefol le, yn yr hwn y llwyddodd ei gwr ar y cyntaf. Y Rhufeiniaid modd bynag, er ei gwobrwyo am roddi Caradog i fyny, a ddaethant i'w chynorthwyo, ac achubasant hi rhag cosbedigae gyfiawn ei gwarthusrwydd.


ARGAD, bardd, yr hwn a flodeuodd yn y seithfed ganrif; ond nid oes dim o'i waith ar gael. Yr oedd un arall o'r enw, yr hwn oedd fab i Llywarch Hen.


ARIANROD, merch Don, y mae wedi ei chofnodi yn y Trioedd fel un o'r "Tair Gwenriain" Ynys Prydain. Y ddwy ereill oeddynt Gwen, merch Cywryd ab Crydon, a Creirwy, merch Ceridwen. Mewn awengerdd gyfrinol, priodoledig i Taliesin, a argraffwyd yn y gyfrol gyntaf o'r Myv. Arch., tudal. 66, coffeir Arianrod; ac am ei chysylltiad â ffugchwedlaeth Gymreig y Derwyddon, tudal. 266. Y gair Arianrod, yn llythyrenol cylch y rhod arian, yn ol Dr. Owen Pugh, yw enw Cymreig y cydser, Aurora Borealis.


ARIANWEN, un o ferched lluosog Brychan. Priododd â Iorwerth Hirflawdd, o Powys, mab Tegonwy ab Toan. Yr oedd yn fam Caenog Mawr, ac yn santes, i'r hon yr oedd eglwys Clog Caenog, sir Dinbych, wedi ei chysegru. (Bonedd y Saint.)


ARLEY, STEPHEN, oedd lefarwr gyda'r Bedyddwyr am flynyddau yn Molestone, ger Arberth, air Benfro. Cafodd ei fedyddio yn Rhydwilym yn 1729, a bernir iddo gael ei anog i ddechreu pregethu tua'r flwyddyn 1774, os nad yn gynt. Sais ydoedd O ran ei ddechreuad, ond Cymro oedd ei weinidog, ac yn nghymundeb y Cymry yr oedd yr eglwys y perthynai iddi. Pan fu y gweinidog farw, yr oedd Mr. Arley yn rhy oedranus i fod o lawer o wasanaeth fel gweinidog, onide buasai yn cael ei ordeinio yn fugail arni. Efe a orphenodd ei daith tua'r flwyddyn 1795 neu 1796. Yr oedd yn wr da a defnyddiol, a bu yn gynorthwywr ffyddlon i'r gweinidog a'r eglwys dros lawer o flynyddau.


ARON, un o feibion Cynfarch, tywysog y Brythoniaid Gogleddol. Yr oedd yn frawd i Urien a Llew; a hwy oll a hynodasant eu hunain yn y rhyfeloedd a'r Sacsoniaid. Cof— nodir Aron yn y Trioedd, fel un o dri chyng— boriaid milwraidd llys Arthur. Y ddau ereill oeddynt Cynan mab Clydno Eiddun, a Llyw— arch Hen. (Myv. Arch., ii. 18.) Dywedir hefyd yn y Brat Tysilio, iddo dderbyn teyrnas Prydain, neu Ysgotland, oddiwrth Arthur, pan oedd wedi gorchfygu yr Ysgotiaid a'r Pictiaid; ac iddo gael ei ladd yn y frwydr a ymladdwyd yn erbyn Medrod, pan ddychwelodd Arthur Gal.