Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

clochdy yr eglwys yn ffurfio rhan o'i dy. Dywedir hefyd iddo ladd bwystfil oedd yn gwneud mawr niwaid yno, wrth yr afon Carog, yn agos i'r eglwys. Y mae crug yn aros eto ar y fan a elwir Bedd Carog.

BAGLAN, mab Dingad ab Nudd Hael, oedd sant yn byw yn y chweched ganrif. Ei fam oedd Tefrian, merch Llewddyn. Bu Baglan byw yn Coedalun. Efe a'i frodyr, Gwytherin, Tegwyn, Tefriog, a'i chwaer Eleri, a unasant a Choleg Ynys Enlli, tuag O.C. 520. (Bonedd y Saint.)


BADDY, THOMAS, oedd enedigol o Ogledd Cymru, ond nid ydym yn gwybod o ba ran o'r gogledd ydoedd. Yr oedd yn ysgolhaig rhagorol, wedi ei addysgu, fel y tybir, dan ofal y Parch. Samuel Jones, Brynllywarch; efe a ymsefydlodd fel gweinidog ar yr eglwys yn Dinbych, tua'r flwyddyn 1693; a pharhaodd yn y weinidogaeth hyd ei farwolaeth, yn 1729. Yr oedd ei gynulleidfa yn fechan o rif, ond yn barchus iawn. Ymddengys ei fod yn bregethwr talentog, yn foneddigaidd o ymddygiad, ac yn berchen ar lawer o dda y byd hwn. Yr oedd yn uwch o ran ei sefyllfa yn y byd na'r rhan amlaf o'i frodyr yn y weinidogaeth. Dywedir ei fod yn achlysurol yn gwisgo yspardynau arian am ei sodlau, yr hyn a barai dramgwyddiadau a gofid mawr i rai o'i gyfeillion, am ei fod yn hyn yn myned yn rhy debyg i wyr mawr yr oes hono. Pan hysbyswyd ef o hyny, dywedodd fod yn ddrwg iawn ganddo eu bod yn rhoddi yn eu calonau i'w blino yr hyn a roddai efe am sodlau ei draed. Y mae y Dr. Charles Owen yn ei ddarlunio fel " gweinidog diwyd, a thra gostyngedig o ysbryd.' Efe a wasanaethodd ei genhedlaeth trwy ysgrifenu a chyfieithu amryw lyfrau da, megys "Hymnau Sacramentaidd," 1703. "Cyfieithad o Dolittle ar Swper yr Arglwydd," 1703. "Cyfieithad o Wadsworth ar Hunanymwadiad," 1713. "Cyfieithiad Cynghaneddol o Ganiad Solomon, gyda Nodiadau Eglurhaol," 1725. "Cyfieithad o Wagedd Mebyd ac Ieuenctyd, gan Dr. D. Williams," 1727.


BAGLAN, mab Ithel Hael, tywysog o Armorica. Preswyliai y rhan flaenaf o'r chweched ganrif; ac ymddengys ei enw yn rhes y seintiau Cymreig, ond nis gellir sicrhau gan ba un o'r ddau sant o'r enw hwn y cafodd yr eglwysi Llanfaglan, yn sir Gaernarvon, a Baglan, yn Morganwg, eu sylfeini, efallai, un gan bob un o honynt.


BAKER, (DAVID,) a anwyd yn Abergavenny, yn 1575. Yr oedd ei dad yn wr o feddianau, ac yn oruchwyliwr i arglwydd Abergavenny; a'i fam oedd chwaer i'r Dr. David Lewis, barnwr y môr-lys; ar ol yr hwn y cafodd ei enw. Derbyniodd ei addysg yn Christ's Hospital, yn Llundain. Symudodd oddiyno i Broadgate Hall, Rhydychain, yn 1590. Yr oedd yn mwriad ei dad i'w ddwyn i fyny yn offeiriad, ond gan fod rhyw rwystrau ar y ffordd, anfonwyd ef i'r Middle Temple cyn iddo gymeryd un gradd, lle yr ymroddodd gyda diwydrwydd mawr i astudio y gyfraith. hwn blinid ef yn fawr gan Atheistiaidd; ond yn mhen amser wedi hyny, cafodd waredigaeth hollol oddiwrthynt; ac hyd derfyn ei oes, ymroddodd i fywyd crefyddol. Yr oedd yn awdwr amryw lyfrau ar dduwinyddiaeth ymarferol; rhoddir rhes o honynt gan Wood yn hanes ei fywyd ef; ond nid ymddengys i'r un o honynt gael eu hargraffu. Yr oedd hefyd yn gyfreithiwr cyffredin rhagorol, ac yn hynafiaethydd da. Yr oedd yn gyfarwydd neillduol yn hynafiaethau yr eglwys Frytanaidd. Ysgrifenodd ei holl weithiau braidd yn Lladin; a chyfieithodd weithiau amryw awdwyr o'r Lladin i'r Saesneg; ond bu farw yn Llundain yn 1641.


BANGOR, (HUGH,) oedd fardd, yr hwn a flodeuai, yn ol y Cambrian Biography, rhwng y blynyddoedd 1560 a 1600.


BARNES, EDWARD, ydoedd frodor o Lanelwy, ac yr oedd yn cael ei ystyried yn fardd yn ei ddydd. Y mae rhai o'i gyfansoddiadau mewn llyfr a gyhoeddwyd yn 1765, o'r enw "Cyfaill i'r Cymro," o gasgliad William Hope, o Dre' Fostyn. Ymddengys iddo ymgysylltu a'r Methodistiaid, a dangos ddifrifoldeb ei sel grefyddol i lesau ei gydwladwyr, trwy gyfieithu a chyhoeddi 1. "Llythyr o gyngor difrifol oddiwrth weinidog yr efengyl at wr mewn cyflwr o fethiant ac afiechyd. gan y Parch. Mr. De Covey, 1784." 2. "Myfyrdodau Hervey, y rhan gyntaf, gyfieithad Iorwerth Barnes, 1785." 3. "Coron gogoniant tragywyddol." "Pregeth y Parch. T. Priestley, ar farwolaeth arglwyddes Selina, iarlles Huntington, a gyfieithwyd gan Edward Barnes." Yr oedd yn byw y rhan fwyaf llafurus o'i oes yn sir Drefaldwyn, ac yn cymeryd y blaen gyda'r symudiad Methodistiaidd, gan gymeryd y pregethwyr teithiol a'r cyfarfodydd i'w dy.


BARNES, THOMAS, a drowyd allan o Magor, sir Fynwy. Cafodd ei anfon o eglwys Allhallows, yn Llundain, i bregethu yr efengyl yn Nghymru. Ar ol ei fwriad allan, efe a ddaeth yn weinidog yr eglwys gynulleidfaol oedd wedi ei ffurfio yn Llanfaches, yn 1689. Yr oedd llawer, os nad y rhan amlaf o aelodau yr eglwys hono yn byw yn mhlwyf Magor, a'r plwyfydd nesaf; ac efe a barhaodd yn y sefyllfa hono hyd ei farwolaeth yn 1703. Ar farwolaeth Dr. Owen, cafodd alwad i ddychwelyd i Lundain, yn ganlynydd iddo; ond efe a ddewisai aros gyda'i ddeadell erlidiedig yn y wlad. Cafodd ei gynal yn gysurus yn ei flynyddoedd adfeiliedig, o Ystorfa y Bwrdd Cynulleidfaol. Y boneddwyr a'r offeiriaid a'i parchent ef yn fawr am wrthod deisebu y brenin Iago yn erbyn prawf. Yr oedd yn meddu ar gryn lawer o synwyr, diniweidrwydd, a hunanymwadiad.


BASSETT, CRISTOPHER, y gwr parchus hwn a hanai o un o hen deuluoedd mwyaf urddasol Morganwg, fel y gwelir oddiwrth achres o deulu y Bassetts, a gyhoeddwyd yn y flwyddyn 1846. Daeth gwreiddiau y teulu drosodd o Normandy, gyda Gwilym y Gorchfygwr. Dau frawd oeddynt, sef Allan a Thirstane Bassett; ac y mae amryw o brif bendefigion Lloegr yn olrhain eu hachau i'r naill neu y llall o'r brodyr hyn hyn. Daeth John, un o feibion ieuangaf Thirstane Bassett, drosodd i