Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gymru gyda Robert Fitzhamon, câr i Gwilym y Goresgynydd, pan gymerodd yr arglwyddi Normanaidd hyny feddiant o'r rhanau brasaf o Forganwg; a'i hiliogaeth a ymgymysgasant trwy briodasau â hen deuluoedd Cymreig mwyaf pendefigaidd y Deheubarth. Gwrthddrych y cofiant hwn oedd fab i Cristopher Bassett, Ysw., ac Alice ei wraig, o Aberddawen, yn mhlwyf Penmarc, sir Forganwg. Efe a anwyd, debygid, tua'r flwyddyn 1753; a phan ydoedd yn dra ieuanc efe a anfonwyd i ysgol enwog oedd yn y Bontfaen, dan yr athraw dysgedig, Mr. Thomas Williams; ac efe a dreuliodd amryw flynyddoedd yno, ac nid yn ofer; canys yr ydym yn deall iddo gynyddu mewn dysgeidiaeth yn gyflym yn y tymor y bu yno; fel y rhoddai ei athraw air uchel iawn iddo fel ysgolor rhagorol; ac ar yr un pryd, yr oedd ei addfwynder a'i hynawsedd arbenig, yn enill iddo lawer o serchogrwydd a pharch pawb a'i hadwaenent. Wedi iddo ymadael o'r ysgol uchod, ei dad, er ei brofi, a ofynodd iddo, pa un ai myned i Rydychain, neu fyw ar ei dir ei hun yn y wlad a ddewisai efe? I'r hyn yr atebodd yn rhwydd a dibetrus, gan ddywedyd, "Yr ydwyf yn gobeithio y caf dreulio fy mywyd yn y gwaith o ddywedyd y gwir dros Dduw wrth fy nghydgreaduriaid, er gogoniant i Iesu Grist, a thragywyddol ddaioni i ddynion." Parodd yr atebiad yma i'w dad bender- fynu ei ddwyn i fyny i'r weinidogaeth; ac felly efe a'i hanfonodd ef i Goleg yr Iesu, i Rydychain, lle yr arosodd nes graddio yn A.C. Ar ei alwad i fod yn gurad i'r efengylwr enwog Mr. William Romaine, yn St. Ann's, Blackfriars, efe a dderbyniodd urddau eglwysig gan esgob Llundain; ac efe a fu yn gwasanaethu yn y fan hon dros rai blynyddoedd, gyda llawer o ffyddlondeb a llwyddiant. Yn y cyfamser efe a etholwyd yn ddarlithydd i'r eglwys a elwir St. Ethelburga, lle y tynodd y darlithydd ieuanc sylw mawr, wrth bregethu yr Iesu a'r adgyfodiad i'r bobl. Efe a gafodd dwymyn drom iawn tra yr ydoedd yn y brif ddinas; ac ofnid ar y pryd y buasai ei fywyd yn syrthio yn ysglyfaeth iddi; ac yn wir, er iddo gael adferiad ar y pryd, gadawodd y clefyd hwn ei effeithiau ar ei gyfansoddiad tra fu efe byw; ac wrth ei weled yn parhau mor llesg, barnodd ei rieni nad oedd awyr Llundain yn cytuno ag ef, a dymunasant arno ddychwelyd i'w wlad ei hun; ac erbyn ei ddyfodiad yno, agorodd yr Arglwydd ddrws cyfleus iddo i bregethu yr efengyl i'w gydwladwyr yn St. Fagan, gerllaw Caerdydd, lle bu yn llafurio gyda gwresogrwydd a gwroldeb mawr dros rai blynyddoedd; a chafwyd ffrwyth lawer o'i lafur yn yr ardal hon a'i hamgylchoedd. Fe'n hysbysir mai yn y flwyddyn 1778 y daeth y dyn ieuanc duwiol hwn i wasanaethu plwyf St. Fagan; a chan ei fod yn dra phleidiol i'r Methodistiaid, efe a gymerodd dy dan ardreth, gan un o'r enw Bartholomew Howell. Ty oedd hwn lle yr arferai ieuenctyd y pentref gyfarfod ynddo i ganu a dawnsio; ond wedi i Mr. Bassett ei gymeryd, fe'i defnyddid i ddyben llwyr wahanol; canys cynhelid ynddo bob moddion o ras, ac ynddo y parhaodd Methodistiaid St. Fagan i gynal eu cyfarfodydd crefyddol, hyd oni chawsant yr addoldy sydd at eu gwasanaeth yn awr, yr hwn a adeiladwyd yn y flwydd. yn 1837. Gofalai Mr. Bassett gymaint am yr achos Methodistiaidd yn yr ystafell grybwylledig ag am ei guradaeth; ie yn wir, un achos yr ystyrid hwynt ganddo ef, sef achos y Cyfryngwr, ac achos eneidiau dynion ;-achos y teimlai efe rwymau i wneuthur rhywbeth erddo yn mhob gwedd a fyddai arno. Trwy ei ddylanwad efe a lwyddai i gael y brodyr mwy. af cyhoeddus yn eu tro i ddyfod i St. Fagan. Yn mhen ysbaid efe a symudodd o St. Fagan i'w blwyf genedigol, lle y dangosodd drachefn trwy ras Duw, gwas i bwy ydoedd, gan draethu y gwirionedd yn ddifloengni a didderbyn wyneb; a Duw yn rhoddi seliau lluosog ac amlwg i'w weinidogaeth. Ond wedi peth amser, efe a roddes guradaeth y plwyf hwn i fyny, ac a ymgymerodd â gwasanaethu yr eglwys oedd yn Mhorthcerri, ar fin y môr, ac yn agos i dy ei dad. Nid oedd hyn namyn ychydig iawn cyn diwedd ei oes; ac yn y lle yma yr addfedodd y dwysen lawn hon. Efe a fu yn dra bendithiol yn llaw yr Arglwydd dros y tymor byr y bu efe yn llafurio yn Mhorthcerri, a chaed arwyddion amlwg fod llaweroedd yn yr ardal hono "wedi eu galw i fod yn saint" trwyddo ef. Meddai ei dad selliau teg, o ran uchder ei dras ei hunan, a'r hoffder a'r parch a broffesai llawer o fawrion y wlad tuag ato, i ddysgwyl dyrchafiad i'w fab yn yr eglwys, trwy roddi rhai o'r llanau mawrion a'r bywioliaethau breision iddo. Ond pa bryd bynag y deuai yr adeg i brofi cywirdeb eu proffes, hwy a dynent yn ol ag esgus dylawd Ffelix, "Pan gaffwyf amser cyfaddas, myfi a ddanfonaf am danat." Ac er y gallasent, o ran cyfleusdra, lawer gwaith roddi y fath ddyrchafiad iddo, ni allasent lai nag amlygu yr elyniaeth sydd yn nghalon y dyn anianol at y gwirionedd, er ei ddyferu dros wefusau Athrau yn y Celfyddydau; yr hyn debygid, wrth ymddygiad llawer, sydd yn llawer gwell a mwy cysegredig na genau halogedig lleyg—Felly cafodd Bassett ei siomi lawer gwaith yn addewidion dynion; ond er hyny, nis gadewid ef fel Ephraim gynt, i ymborthi ar wynt; ond efe a ddysgwyd gan Dduw i fod yn ddoethach; a thorodd hyny lawer ar rym ei brofedigaeth; ac efe a welodd fod y gwir yn fawr o hono ei hunan, ac y llwyddai. Gwelodd mai yr un ydyw ysbryd yr efengyl yn awr ag oedd gynt, ac nad rhaid iddi wrth gefnogaeth gwyr mawr i'w dal i fyny yn yr oes yma, mwy na phan oedd pysgodwyr Galilea yn pregethu iachawdwriaeth i ddynion yn unig yn enw un a groeshoeliwyd ac a farwolaethwyd gan fawrion y byd fel drwg weithredwr, ond a arddelwyd gan Dduw, Act. ii. 36; iii. 15; iv. 9, 10, 11; a xiii. 27, 28, 29, 30. Yr unig ffordd i weled gogoniant yr efengyl ydyw y modd yr ydym yn gweled yr haul, sef yn ei oleuni ei hun; ac yn y goleuni hwn y barnodd Bassett ar y mater; ac am hyny, er pob anmharch, daliai ei ffordd yn ddiarwadal, gan wybod nid o'r