Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

athrylith, i fynedi goleg yr Iesu, Rhydychain, yn Rhagfyr 1824, a chafodd ei raddio yn Wyryf y Celfau yn Mehefin 1828. Yn Hydref y flwyddyn hono, yn eisteddfod freiniol Dinbych, dyfarnwyd gwobr iddo am alar-gan ardderchog ar "Farwolaeth Esgob Heber." Yn 1829, urddwyd ef, a chafodd guradaeth Treffynon; ac yn fuan efe a hynododd ei hun yn fawr trwy ei weinidogaeth selog a llwyddianus. Yn ys- tod ei arosiad yno efe a ysgrifenodd lawer i go- lofnau y Gwyliedydd, cyhoeddiad misol a ddyg- id yn mlaen ar egwyddorion yr Eglwys Sefydi edig. Yn Awst 1832, gwobrwywyd ef & thlws yn eisteddfod Beaumaris. Nid arosodd ond pedair blynedd yn. Nhreffynon, oblegyd yr oedd ei gynheddfau a'i dalentau wedi ei ddwyn i sylw yr Arglwydd Ganghellydd Brougham, yr hwn a gyflwynodd iddo y fywiolaeth Gym- reig gyntaf a ddaeth yn rhydd, yr hon a ddy- gwyddodd fod Manor Deifi, yn sir Benfro, i'r hwn le y symudodd yn 1833. Ar ei waith yn gadael Treffynon, anrhegwyd ef a llestri te arian ardderchog gan ei blwyfolion, yn dwyn cerfiad, cynwysedig o'r ymadroddion mwyaf serchiadol, yn amlygu eu cymeradwyaeth o'i ymddygiad dros ystod ei arosiad yn eu plith, yn y cyflawniad o'i ddyledswyddau gweinidog- aethol. Yn fuan ar ol ei benodiad i Manor Deifi, deisyfwyd arno gan y gymdeithas er taenu gwybodaeth ddefnyddiol, i adolygu Cylchgrawn Cymreig, ar gynllun cyffelyb i'r Penny Magazine yn Saesneg; a'r rhifyn cynt- af, dan yr enw Cylchgrawn, a gyhoeddwyd yn Ionawr, 1834, yn argraff-swyddfa Llanym- ddyfri, gyda cherfiadau eglurhaol. Dechreu- wyd ef yn benaf trwy ysbryd cyoedd D. R. a W. Rees, ei gyhoeddwyr, y rhai a gawsant addewid o wasanaeth y cerfiadau yn rhad, a sicrwydd pellach am £50 tuag at ba golliadau bynag allai gymeryd lle. Cafwyd ar ddeall modd bynag, ar ol hyny, mai eiddo personol oedd y cerfiadau, a chafodd y Meistriaid Rees dalu am danynt, mewn ychwanegiad at yr hyn a gollasant, dros £200 ar y deuddeg mis cyntaf o fodolaeth y cyhoeddiad, pan roddasant hwy ef i fyny i Mr. Evans, Caerfyrddin, yr hwn a'i cyhoeddodd am chwe mis yn hwy, yr hyn a barodd iddo gryn golled; ac yna efe a ddarfu. Yr oedd y Cylchgrawn yn un o'r cyhoeddiadau goreu a gyhoeddwyd yn y Gymraeg, yn cael ei ddwyn yn mlaen gan Mr. Blackwell gyda medrusrwydd mawr. Ei chwaeth yn dethol, a'i alluoedd yn cyfansoddi, a brofant yn gof- golofn barhaus o'i enwogrwydd llenyddol. Y dyn hynod hwn a fu farw Mai 19, 1840, yn 43 oed, a chladdwyd ef yn Manor Deifi. Ei ganiadau a'i draethodau, yn nghyd a hanes dyddorol o'i fywyd, a gyhoeddwyd dan olyg- iaeth alluog y Parch. Griffith Edwards, Minera, yn un gyfrol wyth plyg, dan yr enw "Cein- ion Alun;" argraffedig yn Rhuthyn, yn y flwyddyn 1851.

BLAIDD RHUDD, penaeth rhandir y Gest, ger Penmorfa, yn sir Gaernarfon. Yr oedd yn byw tua diwedd y ddeuddegfed gan- rif; ac yr oedd yn ben ar un o lwythau gwe- rinol Cymru; ac efe yw y cyff o'r hwn y mae llawer o foneddigion y diriogaeth yn olrhain eu hachyddiaeth. Y llwythau gwerinol ereill oeddynt Adda Fawr, Alo, Gwenwys, a Heilyn. (Cam. Biog.)

BLED, tywysog Cernyw, yr hwn oedd yn byw tua diwedd y chweched ganrif. Yr unig grybwylliad a wneir o hono ef sydd yn y Tri- oedd, yn ol vr hyn gwnaed rhodd o fintai fawr o anifeiliaid gan ei fab Einion i'r bardd Golyddan; yr hyn a achosodd un o'r tri budr Hafren. Y ddau ereill a achoswyd gan frwydr fawr a ymladdwyd rhwng y Cymry dan Cad- wallon, â'r Sacsoniaid dan Edwin; yn yr hon y lladdwyd Iddon ab Ner gan Maelgwn Gwy- nedd. (Myv. Arch. ii. 16, 22.)

BLEDRI, esgob Llandaf, yr hwn a fu farw yn y flwyddyn 1023, ac i'r hwn y rhydd Cara- dog y cymeriad canlynol:-Yr ysgolhaig mwy- af yn mysg y Cymry, ac am hyny galwyd ef Bledri y Doeth. Yr oedd mor selog yn taenu dysgeidiaeth, fel y gorfododd yr offeiriaid yn eu gwahanol eglwysi i hyfforddi y bobl mewn llyfrau dysgedig, fel y byddai i bawb dderbyn gwybodaeth briodol am Dduw a dyn. Yn ol Llyfr Llandaf, bu farw yn 1022, yn y 39 flwyddyn o'i gysegriad. Yr unrhyw gofnodiad hefyd a'n cynyagaedda & phrawf o arferion anfoeagar a chreulon yr oes yn yr hon yr oedd yn byw. Mewn dadl à theulu Edwin mab Gwrid, tywysog Gwent, yr esgob a glwyfwyd yn enbyd; ac mewn canlyniad i hyny y tywys- og a'i deulu a esgymunwyd, a holl diriogaeth Gwent a ymddifadwyd o bob cymundeb Crist- ionogol hyd oni wnaed cyflawn foddhad.

BLEDRI, mab Cadifor, arglwydd Gwydd- digada, ac Elfed, yn sir Gaerfyrddin; a chladd- wyd ef yn Llangadog, yn 1119. (Cam. Biog.)

BLEDDYN AB CYNFYN, ar ol marwolaeth Gruffydd ab Llywellyu, yn 1062, a deyrnas- odd yn rhanog & Rhiwallon, ei frawd, yn Ngogledd Cymru, byd pan fu farw hwnw, ya 1068. O'r pryd hwnw, Bleddyn a deyrnasai ei hunan hyd 1072, pan laddwyd ef mewn brwydr, gan Rhys ab Owain. Yr oedd cy- meriad Bleddyn yn enwog yr amser yr oedd yn byw ynddo; cymerodd lawer o boen i am- ddiffyn cyfreithiau y wlad-adolygu rhai a diwygio ereill. Efe a adawodd ar ei ol lawer o feibion. Yn yr ach-lyfrau, yr oedd efe yn ben un o bum llwyth breninol Powys.

BLEDDYN DDU, bardd, a ymddangosodd oddeutu y flwyddyn 1090. Y mae dwy gân o'i eiddo wedi eu dyogelu mewn ysgrifen yn Llyfr Coch o Hergest, yn llyfrgell coleg yr Iesu Rhydychain, "I Dduw,-I Abad Aber- conwy," col. 1249, 1284.

BLEDDYN LLWYD, bardd enwog a fu byw o 1230 i 1260, ond nid oes dim o'i weith- iau wedi cyraedd ein hamser ni. BLEDDYN FARDD, a flodeuodd rhwng 1250 a 1290, fel un o'r beirdd enwocaf. Yr oedd yn fardd i Llywelyn ab Gruffydd, ty- wysog brenhinol diweddaf Cymru. Y mae tri ar ddeg o ganiadau ganddo, yn cynwys awdlau a galarganau am y tywysog Llywelyn, a'i frodyr, Dafydd ac Owain, a phersonau enwog ereill, wedi eu dyogelu yn y gyfrol gyntaf o'r Myv. Arch.

BLEGWRYD FRENIN, yn y Brut