Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Cymreig, canlynodd Seisyllt fel brenin Pry- dain. Yr oedd yn enwog 0 ran ei fedr mewn peroriaeth leisiol ac offerynol, fel nad oedd ei gyfartal; am hyny y gelwid ef " Duw y gwareu," (chwareu-dduw.-Myv. Arch. ii. 165.)

BLEGWRYD AB OWAIN, yagolaig a chy- freithiwr mwyaf ei oes, o deulu pendefigaidd. Yr oedd yn frawd i Morgan, brenin Morgan- wg, yn archddeon Llandaf, yn athraw yn nghyfraith yr ymerawdwr, ac yn nghyfraith yr eglwys. Gelwir ef yn Nghronicl y tywys- ogion Cymreig "Pen cyfeistedd." Cofnodir ef hefyd yn Llyfr Llandaf, tudal. 209, fel y Blegwryd Enwocaf. Dewiswyd ef gan Martin, esgob Tyddewi; Mordaf, esgob Bangor; a Marchlwys, esgob Llaudaf, i fyned gyda Hy- wel Dda i Rufain, pan oedd efe yn parotoi ar gyfer adolygu cyfreithiau Cymru, yn y flwydd- yn O.C. 926. Wedi hyny, pan oedd Hywel wedi gwysio i gynghorfa chwech o'r dynion doethaf a mwyaf deallgar o bob cwmwd yn Nghymru, a saith ugain o eglwyswyr o wahan- ol raddau, efe a orchymynodd ar fod deuddeg o'r rhai mwyaf profiadol i gael eu dethol, y rhai, gyda chymorth Blegwryd, oeddynt i ad- olygu hen gyfreithiau Cymru, a'u dwyn i'r fath ffurf ag oedd yn gyfaddas i foesau ac amgylch- iadau y wlad. Ar yr amgylchiad pwysig hwn, Blegwryd oedd i fod yn ysgrifenydd; yr hwn a osododd y gwahanol benranau mewn iaith briodol; ac y mae y deddflyfr wedi ei dros- glwyddo i lawr i ni. Y mae yn gofnodiad an. mhrisiadwy o deimladau ac arferion ei amser ef.

BLEIDDIAN, neu Blaidd, yw y cyfieithad Cymreig o Lupus, esgob Caerdroia, yr hwn a ddaeth gyda Garmon, o Ffrainc i Frydain, tua'r flwyddyn O.C. 429, er rhoddi atalfa ar Forganiaeth. Ymddengys mai Bleiddian oedd y cenadwr ieuangaf, ac iddo gymeryd rhan is- raddol, gan nad enwir ef mewn cysylltiad a Garmon. Y mae eglwys Llanblethian Fawr, a Llanblethian Fach, yn sir Forganwg, wedi eu cysegru iddo. (Myv. Arch. ii. 249; Rees's Welsh Saints.)

BLEIDDYD, brenin Prydain, o C.C. 859, hyd 839. Canlynodd ei dad Rhun Paladrfras. Teyrnasodd ugain mlynedd, ac adeiladodd Caerbaddon, (Bath,) lle y dywedir iddo ddy- feisio enaint poeth i fod yn feddyginiaeth bar- haus i'r cystuddiol. Canlynwyd ef i'r orsedd gan ei fab Llyr, neu Lear yn ngwaith Shakes- peare. (Myv. Arch. ii. 126.)

BLEIDDYD, y 53 brenin Prydeinig, yn ol y Brut Cymreig. Canlynodd Meiriawn tua'r flwyddyn C.C. 266; a bu farw ar ol teyrnasiad byr o dair blynedd. (Myv. Arch. ii. 165.) BLEIDDYD, esgob, yr hwn a ganlynodd Joseph yn esgobaeth Tyddewi, yn 1061. Bu farw yn 1070. (Myn. Arch. ii. 519.)

BLETHYN, WILLIAM, oedd enedigol o Gymru, a derbyniodd ei addysg golegol yn New Inn, neu Broadgate's Hall, Rhydychain, gan lwyrymroddi i astudio y gyfraith wladol. Cymerodd ei raddio yn yr alwad hono yn 1562, ac wedi hyny daeth yn archddiacon Aberhon- ddu, a chorweinydd Osbaldkirke, yn eglwys gadeiriol York. Gyda'r dyrchafiad diweddaf, yn nghyd a chorweinydd St. Dubricius yn eglwys gadeiriol Llandaf, ar berigloriaethau Rogyet, yn sir Fynwy, a Sunningwell yn sir Berk, derbyniodd esgusodeb i ddal gwag eglwys-fudd gydag esgobaeth Llandaf, i'r hon yr oedd wedi ei gysegru, Ebrill 17, 1575. Bu farw Hydref 1590, a chladdwyd ef yn eglwys Mathern, yn Mynwy, lle yr oedd gan esgob Llandaf y pryd hwnw balas, yn agos i'w rag- flaenoriaid, yr esgobion Kitchen a Jones. Gad- awodd dri o feibion, William, Timothy, a Phil- emon; y diweddaf o honynt a ddaeth yn gor- weinydd Llandaf; ac yr oedd ganddo ddyrch- afiadau ereill. (Wood's Ath. Öxon, Le Neve's asti, Godwin de Presulibu

BLOOM, MELBOURN, oedd weinidog gyda'r Annibynwyr. Yn ol yr hanes sydd genym cafodd ei neillduo i waith y weinidog- aeth yn y flwyddyn 1745, yn gynhorthwywr, mae'n debyg, i'r Parch. C. Samuel, Pantteg, sir Gaerfyrddin. Yr ydym yn cael yn hanes ffurfiad eglwys Penygraig, ger Caerfyrddin, yn 1748, mai nifer yr aelodau ar y pryd oedd 30, ac mai y gweinidog oedd yn gofalu am dani oedd y Parch. Melbourn Bloom, a'i fod yn un o'r personau blaenaf yn nygiad yn mlaen yr addoldy cyntaf yno yr un flwyddyn ag y ffurfiwyd yr eglwys; a dywedir mai efe oedd y gweinidog cyntaf a fu yno, ond nad yn Mhenygraig y cafodd ei urddo. Yr ydym yn cael hanes hefyd iddo ganlyn y Parch. T. Thomas yn y weinidogaeth, yn Nghefnarthan a Phentretygwyn, ger Llanymddyfri, yr hwn a fu farw yn y flwyddyn 1794. Ymddengys wrth yr hanes iddo fod am lawer o flynyddoedd yn llafurus yn y weinidogaeth yn sir Gaer- fyrddin. Nid oes genym yr un wybodaeth pa bryd y gorphenodd ei yrfa ddaearol.

BOADICEA, yn Gymraeg Buddug, brenin. es Frytanaidd enwog yn amser yr ymerawdwr Nero. Yr oedd yn weddw i Prasutagus, bren- in Iceni; yr hwn mewn gobaith o sicrhau am- ddiffyn y Rhufeiniaid i'r deyrnas a'i deulu, a wnaeth trwy ei ewyllys, yr ymerawdwr a'i ferch ei hun yn gydetifeddion o'i drysorau gwerthfawr. Y canlyniad modd bynag, a brof- odd yn groes; oblegyd ei deyrnas a'i drysorau a ddaethant felly yn ysglyfaeth i'r milwyr Rhufeinig, y rhai a aethant i'r fath radd o far- bareidd-dra, fel y gorchymynasant i'r frenines gael ei.fflangellu yn gyhoeddus, a'i ferched i yn ddarostyngedig i'r ymddygiadau mwyaf creulon. Cynddeiriogodd hyn y Prydeiniaid, fel yr aeth 120,000, gyda Boadicea yn eu llyw- yddu, ac ymosodasant ar y Rhufeiniaid, a dial- asant y niweidiau a dderbyniasent, trwy ladd 70,000 o'r Rhufeiniaid. Pan glywodd Sueton- ius Paulinus am y gyflafan hon, efe a frysiold o sir Fon, gyda 10,000 o hen filwyr dan ei lywyddiaeth, ac mewn brwydr waedlyd yr hon a ganlynodd, gorchfygwyd y Prydeiniaid gyda lladdfa fawr. Dywedir i 80,000 syrthio ar y maes.

BODA, sant, yr hwn oedd un o feibion He- lig ab Glanawg. Yr oedd yn byw yn y rhan flaenaf o'r seithfed ganrif. Pan ddinystriwyd tiriogaeth eu tad gan y llifeiriant mawr, efe a'i frodyr a gofleidiasant fywyd mynachaidd, a