Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

daethant yn aelodau o golegau Enlli a Bangor, yn sir Gaernarfon. (Bonedd y Saint.)

BODFAN, sant, yr hwn oedd un o feibion Helig ab Glanawg, a brawd Boda. Efe a syl- faenodd eglwys Aber, neu Abergwyngregyn, yn sir Gaernarfon, yr hwn blwyf sydd nesaf at y Lavan Sands, yr hwn o flaen y gorlifiant a ffurfiai diriogaeth eu tad. Ei ddydd gwyl yw Mehefin 2. (Bonedd y Saint.)

BOIS, DAVID, ydoedd o Trebois, plwyf Llandefalley, yn sir Frycheiniog; ond yn hanu o hen deulu Normanaidd a sefydlasant yno. Gwnaed ef yn brior y friars, neu y brodyr Carmelaidd, yn Nghaerwrangon; ac yr oedd yn awdwr amryw weithiau Lladin, ar destunau crefyddol ac eglwysig. (Lewis' Top. Dic.)

BOLD, WILLIAM, YSW., ydoedd o Dre'r Ddol. Gwasanaethodd siryddiaeth Mon yn y blynyddoedd 1644, 1649, a 1655. Yr oedd yn un o'r swyddogion yn myddin Siarl II., yn y rhyfeloedd gwladol hyny; ac yn un o'r rhai a enwogasant eu hunain, fel ag í deilyngu cael ei anrhydeddu â'r bwriadol urdd o Farchog y Dderwen Freiniol, yn 1660, a'i etifeddiaeth yn werth £1000. (Cam. Quar. Mag. ii. 165.7.)

BOWEN, DAVID, Brynchwith, pregethwr cynorthwyol, yn perthyn i'r Annibynwyr yn Blaenycoed. Dechreuad yr eglwys yn y lle hwn oedd symudiad Mr. D. Bowen o'r College, plwyf Cilrhedyn, i'r Brynchwith, tua'r flwydd- yn 1800. Yr oedd Mr. Bowen yn aelod yn flaenorol yn Nhrelech. Yn fuan wedi ei sy- mudiad, cymerodd hen ysgubor yn Blaenyeoed ar ardreth o gini y flwyddyn, er cynal cyfar- fodydd gweddio, a phregethu yn achlysurol. Cafodd ei gefnogi gan ei weinidog, y Parch. M. Jones, yr hwn a addawodd ddyfod yno i bregethu iddynt unwaith bob dau fis. Ni or- phwysodd Mr. Bowen nes cael yr hen ysgubor yn lle cyfleus at ei gwasanaeth newydd. Go- sodwyd areithfa a bwrdd ynddi, yn nghyd a ffenestri er ei goleuo; a gosodwyd meinciau i eistedd arnynt, nes edrychai yr hen ysgubor yn lled daclus Bu Mr. Bowen yn cynal llawer eyfarfod gweddi ynddi heb neb igymeryd rhan yn y gwaith ond efe ei hunan. Byddai yn arfer gweddiu a chanu dair neu bedair gwaith, gyda hyfrydwch mawr. Ond yn fuan daeth mwy o wrandawyr yno nag a ddaliai yr hen ysgubor, a chafwyd tir i adeiladu capel arno yn y flwyddyn 1807. Mr. D. Bowen.a Mr. D. Davies, Brynceirch, oedd y prif offerynau i ddwyn y gwaith yn mlaen; ond bu D. Davies farw cyn ei orphen. Ar anogaeth ei weinidog dechreuodd Mr. Bowen bregethu tua'r flwydd- yn 1806, a pharhaodd yn ffyddlon gynhorth- wywr i'w weinidog hyd ei fedd. Efe oedd tad y Parch. Samuel Bowen, Maclesfeld. Y mae flawer o deulu Mr. D. Bowen yn enwog mewn crefydd yn yr ardal hyd heddyw. Cynyddodd yr eglwys fechan hono mewn aelodau newydd- ion, amryw o honynt yn benau teuluoedd, ac yn amaethwyr cyfrifol; a hyny fel ffrwyth Ilafur un dyn duwiol a da yn yr ard.1. Cafwyd lle helaeth i gladdu wrth y capel, a thrydydd merch Mr. Bowen a gladdwyd yno gyntaf, yn 1827; ae erbyn heddyw mae y gwas ffyddlon hwnw i Iesu Grist, yn nghyd a chanoedd ereill, yn tawel orphwys hyd udganiad yr udgorn, yn myn vent Blaenycoed.

BOWEN, EVAN, a fu yn bregethwr teith- iol; ac ar y 12fed o Fawrth, 1653, cafodd ei osod yn offeiriad Llanafanfawr, yn sir Fry- cheiniog. Dr. Walker a ddywed ei fod yn 55 mlwydd oed pan osodwyd ef yn y Llan; a chan ei fod yn bregethwr yn yr ardal o'r blaen, nis gellir gwybod pa faint o ddaioni a wnaeth efe yn flaenorol i hyny. Dywedir fod o gylch pedair mil o eneidiau dan ei ofal; a diameu ei fod ef fel amryw ereill a osodir gan Senedd, i bregethu mewn amryw Lanau heblaw Llan- afanfawr; a chyda phregethu ar y Sabbath, yr oedd hefyd i bregethu dair neu bedair gwaith yn yr wythnos. Ni byddai y Llyfr Gweddi Cyffredin yn cael ei ddefnyddio y pryd hwnw; ond byddent yn dwyn y gwasanaeth crefyddol yn mlaen fel y gwna yr Ymneilldu- wyr y dyddiau hyn. Yn ol y Cyfarwyddiadur yr oedd i gael ei ddwyn yn mlaen, a'r ffurf yn cael ei gwahardd. Yr Arglwydd a'i gwnaeth yn offeryn yn ei law er dychweliad llawer o'r Cymry at Dduw. Yr oedd Mr. Evan Bowen yn un o gyndeidau Carnhuanawc. Efe oedd sefydlydd y gynulleidfa o Annibynwyr a gyf- arfyddant i addoli Duw yn Nhroedrhiwdalar, yn mhlwyf Llanafanfawr, yr hon sydd yn bodoli hyd heddyw, ac yn dra blodeuog, dan ofal gweinidogaethol y Parch. D. Williams, er ys mwy na 61 o flynyddoedd. (Gwel Walker's Sufferings of the Clergy, part i. tudal. 161; part ii. tudal. 409; Hanes Cymru, gan Carn- huanawc.)

BOWEN, THOMAS, YSW., Gwaunifor, yn Aberteifi. Yr oedd y boneddwr hwn a'i briod yn hoffi yr efengyl yn fawr. Pan oedd Mr. John Thomas, awdwr "Caniadau Seion," yn pregethu mewn lle a elwir Cefn Llanfair, torodd boneddiges ieuanc allan i waeddi. Y foneddiges hono oedd Miss Bowen, Gwaunifor. Yr oedd rhyw weithrediadau ar feddwl Miss Bowen cyn hyu, trwy farwolaeth chwaeriddi. Arol yr oedfa, hi a ofynodd i Mr. Thomas fyned gyda hi i'r palas. Nis gwyddai, meddai ef ei hun, pa fodd i dori at y boneddwr yn nghylch crefydd a duwioldeb, rhag ei dramgwyddo. Ond wrth ymddiddan ag ef, canfu ei fod o ysbryd gos- tyngedig, ac yn barod i dderbyn ei addyag- iadau. Dywedodd y boneddwr wrth Mr. Thomas ei fod yn bwriadu rhoddi ysgol i blant tlodion yr ardal, ac y byddai yn well ganddo iddo ef ddyfod i'w chadw na neb arall. Yntau a atebodd, "Er eich boddloni chwi mi a ddeu- af ar fy nychweliad, wedi cyflawni fy nghy- hoeddiadau." Yr hyn a wnaeth. Ar y Sab- bath, byddai yn arfer myned gyda Mr. Bowen i'r Llan yn y bore, ac yn llefaru yn yr ysgoldy y prydnawn. Wrth fyned tua'r Llan un bore, dywedai y boneddwr wrtho, "Gan eich bod chwi yn dyfod gyda mi yn y bore, deuaf finau gyda chwithau yn y prydnawn, i'ch gwrando yn pregethu;" ac felly y bu. Yr oedd llawer o bobl wedi ymgynull i'r ysgoldy, ac yr oedd yn syn iawn ganddynt weled Mr. Bowen yn eu plith. Ar ol hyn ceisiodd Mr. Thomas gan Mr. Bowen fyned gydag ef i Gapel Twrgwyn, i wrando Mr. Rowlands, yr hwn oedd i bre-