Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

gethu yno; a'r hyn y cydsyniodd; ac ar ol hyny ni pheidiodd a gwrando y Methodistiaid dros ei oes. Yn mhen ychydig ar ol hyny yr adeiladodd Mr. Bowen Gapel Gwaunifor, o fewn ychydig i'w balas, yn y flwyddyn 1760, lle y mae pregethu yn aros hyd heddyw. Byddai Mr. a Mrs. Bowen yn ymgeledd werth- fawr i'r achos yno; oblegyd heblaw adeiladu y capel ar eu traul eu hunain, lletyent hefyd yr holl lefarwyr a weinyddent ynddo, a chyf- ranent yn haelionus at draul yr achos yn ei holl ranau. Pan fuant hwy feirw, bu eu merch, Miss Bowen, yn gymorth i'r achos am lawer o flynyddoedd. Yr oedd iddi hefyd frawd yn offeiriad yn eglwys Loegr. Ar of marwolaeth ei chwaer, dangosai garedigrwydd i bregeth- wyr y Methodistiaid a ddeuent i lefaru bob Sabbath, er na byddai efe ei hun yn ymgy- mysgu dim a'r cyfundeb. Yr oedd Mr. Bowen wedi gadael yr hawl i'r capel hwn i'r Method- istiaid Calfinaidd dros byth, yn ei ewyllys. Yr oedd hefyd wedi trefnu fod Mrs. Bowen i gadw y capel mewn cywair dda tra byddai hi byw. Profwyd yr ewyllys hon yn y llys priodol yn Nghaerfyrddin, yn y flwyddyn 1806, gan y weddw, yr hon a adawyd yr unig weinyddes i'r llythyr cymun. Wele yma gynllun nodedig i foneddigion ereill i'w efelychu.

BOWEN, CADBEN JAMES, Llwyngwair, ydoedd foneddwr yn berchen ar lawer o gyf- oeth, yn preswylio yn un o'r palasau mwyaf hyfryd yn nghymydogaeth Trefdraeth. Cafodd ei ddwyn i geisio crefydd mewn modd tra hynod. Yn y flwyddyn 1786, torodd adfyw- iad allan yn Llwyn-neuadd, ardal nid pell o Drecastell, dan weinidogaeth y Parch. Thomas Jones, Caerfyrddin. Yn y tymor hwn dywedir i'r boneddwr Cadben Bowen, Llwyngwair, sir Benfro, dderbyn saeth y gwirionedd i'w galon. Fel yr oedd un ferch ieuanc yn molianu ar yr heol wedi dyfod allan o'r capel, ac yn adrodd y penill hwnw o waith Williams, Pantycelyn:-

"Dywedwch im, pa olwg hyfryd,
Sydd ar Dywysog mawr y bywyd;
A yw ol yr hoelion yno,
Yn ei draed ac yn ei ddwylo ?" &c.,

dygwyddodd fod y boneddwr yn myned heibio yn ei gerbyd ar y pryd. Disgynodd y swn peraidd yn swynol ar ei glust; tynwyd ei sylw at yr ymadroddion; teimlodd eu bawdudrod yn cyffwrdd a'i galon, a gogwyddodd ei ys- gwydd i'r iau. Ni allodd y gwr mawr, er pob rhwysg, a than bob anfantais, ymddiosg oddi- wrth y teimlad a enynwyd y pryd hwnw yn ei fynwes; ac ni chafodd i'w ysbryd nes cyraedd y lloches sydd yn Nghrist, a'r cymundeb sydd gyda'i bobl. Ymunodd yn fuan a Methodistiaid ei ardal; a dangosodd ei hun o hyny allan yn Gristion didwyll a thra defnyddiol. Pan vmneillduodd y Methodist- iaid oddiwrth yr Eglwys wladol, yn y flwydd- yn 1811, ac yr urddasant weinidogion iddynt eu hunain, fel na byddai raid iddynt mwyach fyned i'r Llan i dderbyn y cymundeb, enciliodd rhai offeiriaid, a safodd y lleill eu tir; collas- ant amryw gapelau yn y rhan uchaf o sir Ben- fro; ac yn mhlith ereill collasant gapel Tref- draeth, lle yr oedd Mr. (Bowen yn aelod; ond rhyw nifer a lynasant wrth y pregethwyr. Rhoes y boneddwr hwn ddarn o dir i adeiladu capel arall arno, yn lle yr un a gollasid, pa un a godwyd yn y flwyddyn 1815; ac nid hir y bu efe byw ar ol hyny. Cafodd llawer gryn golled ar ei ol, gan ei fod yn foneddwr caredig a chymwynasgar. Yr oedd gweinidogion yr Annibynwyr a'r Methodistiaid yn arfer myned i Lwyngwair, a dangosai y boneddwr a'r teulu y sirioldeb mwyaf iddynt bob amser.

BOWEN, PARCH. THOMAS, Castell- nedd, a gafodd ei eni a'i fagu yn ardal My- nyddbach, Capel Isaac, ger Llandilofawr, sir Gaerfyrddin. Nid oes genym ddim o hanes ei rieni, nac ychwaith o hanes ei ddyddiau ieuengaidd ef ei hun. Cafodd ei feddwl ei dueddu at grefydd pan oedd yn dra ieuanc; a chan ei fod yn feddianol ar alluoedd meddyl- iol mwy na'r cyffredin, yn wr ieuanc duwiol, ac o ddoniau mawr mewn gweddi, anogwyd ef i arfer ei ddawni bregethu; yr hyn a wnaeth er boddlonrwydd neillduol i'r eglwys. Cafodd ei dderbyn i'r athrofa oedd y pryd hwnw yn y Fenni; ac ar ol treulio ei amser yno, derbyn- iodd alwad oddiwrth yr eglwys Annibynol a gyfarfyddai i addoli Duw yn Maesyronen, sir Faesyfed, i ddyfod atynt, a chymeryd eu gofal gweinidogaethol; a'r hyn y cydsyniodd, a chafodd ei urddo yn weinidog arni tua'r fwyddyn 1792. Torodd diwygiad allan yn nghymydogaethau Brechfa a Mesyronen pan oedd yr eglwysi hyny o dan ofal gweinidog- aethol y Parch. T. Bowen, wedi hyny o Gas- tellnedd. Pan dorodd y diwygiad all-n, aeth y swn mawr trwy yr holl wlad, ac yr oedd tyr- faoedd yn ymgyniwair yn nghyd i weled y neidio, ac i glywed y molianu; a byddent yn myned o Frechfa tu Maesyronen, o gylch pedair milldir o ffordd, ar fore Sabbath, ac wrth ddychwelyd canent a gweddient nes y byddai y cwmydd yn adseinio gan lais can a moliant. Aeth y Parch. William Havard yu mhlith ereill yno i'w gweled yn neidio, ac i'w clywed yn gorfoleddu ac yn moliany, pan oedd efe tua deuddeng mlwydd oed; a dyna'r pryd, yn ol ei dystiolaeth ef ei huu, y cafodd ei ail- eni. Derbyniwyd ef yn aelod yn Brechfa, gan Mr. Bowen. Byddai Mr. Havard yn arfer dywedyd ei bod yn hyfryd ganddo bob amser glywed enw Mr. Bowen yn swnio yn ei glust- iau, "Oblegyd, (meddai ef,) os cefais i fy ar- gyhoeddi erioed, dan weinidoga th Mr. Bowen y cefais y drugaredd hono, pan oeddwn yn blentyn tua deuddeng mlwydd oed. Yn y flwyddyn 1796, rhoddodd yr eglwys Annibynol yn Maesyrhaf, Castellnedd, alwad iddo ddyfod i gymeryd eu gofal; a'r hyn y cydsyniodd, a bu yn llafurio yn eu mysg hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le ar y 27 o Chwefror, 1827. Cafodd ei lafur yno ei fendithio mewn modd neillduol gan yr Arglwydd, er dychwel- iad eneidiau lawer. Yn ei amser ef y sefydl- wyd yr achos yn y gwahanol ganghenau eg- lwysi perthynol i Maesyrhaf-Melincwrt, a Chwmafon. Bu y diweddar Barch. Daniel Griffiths, Castellnedd, am beth amser yn gyd- weinidog âg ef yn Maesyrhaf. Yr oedd Mr.