Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Bowen yn un o'r pregethwyr mwyaf poblog-
aidd a heffus yn y wlad. Rhagorai braidd ar
bawb yn y ddwy iaith. Pan fyddai yn pre-
gethu yn Gymraeg, gallasai dyn nad oedd yn
ei adnabod feddwl nad oedd yn deall dim ond
Cymraeg; a phan yn pregethu Saesneg dra-
chefn, yr oedd ei rwyddineb ymadrodd, a'i
aceniad priodol y fath, fel y gallesid tybied
nad oedd yn gwybod yr un iaith ond Saesneg.
Yr oedd Maesyrhaf yn ei amser ef yr addoldy
lluosocaf ei wrandawyr yn y dref. Yn ei am-
ser ef y sefydlwyd ysgol Sabbathol yn y lle;
ac yn fuan wedi hyny daeth ysgolion Sabbathol
yn gyffredinol, a chafodd miloedd lesad
trwyddynt. Y mae yn weddus i ni goffau yma,
fod hen ysgriflyfr, wedi ei ysgrifenu yn 1720,
gan un Morgan John, o Dreforis, ger Aber-
tawe, yn hysbysu fod yr eglwys yn y Chwarel-
au Bach, Castellnedd, (yr hon a adeiladodd
gapel Maesyrhaf,) wedi sefydlu ysgol Sabbath-
ol yn 1697, er taenu gwybodaeth grefyddol
yn mhlith y cymydogion, y rhai oeddynt yn
meirw o ddiffyg bara'r bywyd. Oddiwrth y
dystiolaeth hon, ymddengys fod ysgolion Sab-
bathol yn bodoli yn Nghymru fwy na phedwar
ugain a deg o flynyddoedd yn flaenorol i'r
dyddiad a roddir yn gyffredin i'w dechreu-
ad; a bod aelodau yr hen eglwys yn y Chwa-
relau Bach wedi gwneud yr hyn a fedrent i
daenu gwybodaeth o'r gwirionedd, a llesoli eu
cymydogion trwy foddion gras.

BOWEN, PARCH. JOHN, Saron, ydoedd
fab i Mr. Bowen, offeiriad plwyf Llangeler.
Derbyniwyd ef yn aelod yn eglwys Annibynol
Saron, pan oedd y diweddar Barch. D. Davies,
Abertawe, yn weinidog yno. Nid bir y bu efe
yno fel aelod o'r eglwys, cyn cael ei anog i
ddechreu arfer ei ddawn fel pregethwr; a
phan aeth y Parch. D. Davies oddiyno i Aber-
tawe, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Bowen
i gymeryd ei gofal; ac ar y 3ydd o Dachwedd,
1795, sef yr un flwyddyn ag yr ymadawodd Mr.
Davies, cafodd Mr. J. Bowen ei neillduo yn
gynhorthay i Mr. Lewis, yr hen weinidog.
Yr amser hwn yr oedd yr esgob newydd a'r
eglwys yn caru eu gilydd yn fawr. Yr oedd
pawb yn ymdrechu eu goreu dros yr achos, yr
eglwys yn helaethu ei therfynau, a llawer
yn dyfod i ymofyn y ffordd tua Seion. Cariad
a flodeuai fel rhosyn, a'i arogl yn llenwi y lle
fel yr oedd yn hyfryd bod yn eu cymdeithas.
Ond
yn mhen oddeutu pum mlynedd wedi y
sefydliad, cododd rhyw gwmwl tywyll yno,
pan fethodd y gweinidog ieuanc a'r eglwys
gydweled, ac o ganlyniad, mewn nwyd a byr-
bwylldra, diaelododd rhwng 20 a 40 o'r aelod-
au, rhai o honynt yn ddynion da a duwiol, a
thra ymdrechgar dros achos yr Arglwydd. Pan
welodd yr hen weinidog parchus hyn, eu bod
wedi cael eu diarddel heb ymgynghori â'r eg-
lwys yn yr achos yn mlaenaf, efe a gododd i
fyny ac a gyhoeddodd gymundeb yno y Sabbath
nesaf, i'r rhai a ddiarddelwyd, ac ereill o aelod-
au yr eglwys ag oeddynt yn methu cydweled
à Mr. Bowen; ac mewn canlyniad ymranodd
yr eglwys, a rhanwyd yr amser hefyd i'r ddwy
blaid, ac felly y parhasant am flynyddoedd yn
ddwy eglwys wahanol yn addoli yn yr un
BOW
addoldy; yr hyn a barai gryn anghysur, oble-
gyd eu bod yn amddifad o undeb a heddwch.
Önd ni pharhaodd pethau felly yn hir, fel y
cawn sylwi eto mewn lle arall. Bu Mr. Bowen
hefyd yn gweinidogaethu yn y Bwlchnewydd,
mewn cysylltiad a Saron. Er fod y ffordd yn
mbell, parhaodd i ofalu gyda ffyddlondeb mawr
am eglwys y Bwlchnewydd nes ataliwyd ef gan
henaint a methiant; mewn canlyniad i'r hyn
y rhoddodd efe ei ofal gweinidogaethol i fyny,
ychydig amser cyn ei farwolaeth. Ystyrid ef
gan bawb a'i hadwaenai yn ddyn didwyll holl-
ol, yn Gristion cywir galon, ac yn bregethwr
rhagorol dda. Teithiodd lawer, a llafuriodd
yn galed tra y parhaodd ei nerth a'i iechyd.
Efe a
BOWEN, WILLIAM, gweinidog y Brdydd-
wyr yn Llanfachreth, Mon. Ni chafodd y
gweinidog ieuane hwn ond tymor byr ar y
ddaear. Ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, ac
a'i gorchfygodd mewn ychydig amser.
adawodd Mon, a dychwelodd i'w fro enedigol
at ei rieni a breswylient yn Mhontrhydyfen,
Morganwg. Aeth i ymweled a'i chwaer ar y
Gurnos, lle yr oedd yn mwynhau pob caredig-
rwydd a thynerwch am tua phum wythnos,
pan, ar yr eilfed ar hugain o Awst, 1857,
rhoddodd angeu derfyn ar ei holl gystuddiau.
Gadawodd rieni, brodyr, a chwiorydd, gwraig
hoff a dau o blant bychain i alaru ar ei ol.
Claddwyd ei weddillion marwol yn ymyl Caer-
salem, capel y Bedyddwyr, Ystalyfera, yn
ngwydd tyrfa fawr o bobl.

BOWEN, WILLIAM, Abertawe, gynt o
Aberhenwen, agos i Trecastell, sir Frycheiniog.
Cafodd y gwr hwn ei ddychwelyd at Dduw o
dan weinidogaeth y diweddar Barch. Thomas
Jones, Caerfyrddin, yn y flwyddyn 1786, pan
oedd efe yn pregethu mewn lle a elwid Llwyn-
neuadd, ardal agos i Drecastell. Aeth Mr.
Bowen ar ol hyny yn swyddog i'r gyllidfa
(supervisor); a daeth yn bregethwr tra defn-
yddiol yn ei ddydd; yr hwn a symudodd o'r
ardal hono, ac yn y flwyddyn 1811, aeth i
Abertawe i aneddu, ac a ddybenodd ei yrfa yn
y dref hono. Dywedir mai dyn da a synwyrol,
a phregethwr doniol ydoedd; a dywedir, oni
bai ei rwystro gan ei alwedigaeth, trwy
gyfyngu ei amser yn fawr, y buasai yn un o'r
dynion blaenaf ac enwocaf yn ei oes. Bu farw
yn 1822, yn 60 mlwydd oed.

BOWEN, JOHN, a anwyd yn y Cwrt, ger
Abergwaun, yn sir Benfro, Tachwedd, 1815.
Cadben yn y fyddin ydoedd ei dad. Cafodd
elfenau ei ddysgeidiaeth o dan athraw teilwng
yn Hwlffordd.
Yn fuan bwriadai yr holl
deulu ymsymud i Canada, ond yr hwn fwriad
a roddwyd heibio ganddynt oll, oddieithr
John. Rhoddwyd y dewisiad iddo ef naill ai
myned i Gaergrawnt, i ymbarotoi i'r weinidog-
aeth, neu ymfudo i Canada, i drin tir; a'r
olaf a ddewisodd. Ymsefydlodd ar fferm, ar
lanau y Llyn Erie. Daeth yno dan deiml-
adau dwys-grefyddol, o dan weinidogaeth y
Parch. C. B. Gribble. Penderfynodd ymgyf-
lwyno i weinidogaeth yr efengyl; ac yn hollol
annysgwyliadwy i'w berthynasau, dychwelodd
adref, ac aeth yn efrydydd i Goleg y Drindod,
Dublin. Yr oedd wedi ei orlenwi ag ysbryd