Illtud Farchog, oblegyd cefnder i'w dad ef oedd Illtud, a thyma ddechreuad arbenig ymfudiad cenhadol Llydaw i Gymru. Bu i Ålan dri o feibion, y rhai a hynodasant eu hunain fel seintiau disglaer, nid amgen, Lleuddad, a elwir hefyd Lleuddad Llydaw, Lloniaw, Periglor Padarn, Esgob yn Llanbadarnfawr, a Llynab, yr hwn a fu'n archesgob Llandaf, yn ail ar ol Dyfrig, medd rhai, yn drydydd, medd eraill.
ALAN FORGAN. Penaeth a laddwyd ar faes Camlan, yn y flwyddyn 542, trwy fradwriaeth ei wyr, y rhai a enciliasant oddiwrtho ar gychwyniad y frwydr. Am y rheswm hwn nodir hwynt yn y Trioedd fel un o'r tri "Anniweir Deulu," neu lwythau anffyddlon Ynys Prydain. Y ddau eraill oeddynt Goronwy Befr o Benllyn a Peredur.
ALAW (DAFYDD). Brodor o lan afon Alaw yn Mon, a bardd cywrain ac awenyddol. Bu farw tua 1540. Mae cofrestr o 12 o'i gywyddau ar glawr y Greal. Mae tri o honynt i Risiart ab Rhydderch o'r Myfyrian. Daethai y gwr hwnw i'w etifeddiaeth 1525. I ofyn cymod Risiart ab Rhydderch y mae dau o'r cywyddau. Tebygol iddo lwyddo yn ei amcan, canys mae yr olaf yn dechreu fel hyn:—
"Af y fory i Fyfyrian ".
ALAWN. "Tri chyntefigion beirdd Ynys Prydain,—Plenydd, Alawn, a Gwron; sef oeddynt y rhai hyny a ddychymygasant y breiniau a'r defodau sydd ar feirdd a barddoniaeth."
Barnai T. ab Iolo Morganwg nad oedd y tri chyntefigion ddim amgen na dynsoddiad o "Dri phrif anhebgor Awen,—llygad yn canfod anian, calon yn teimlo anian, a glewder a faidd gydfyned ag anian." Ystyr y gair Alon yw cynghanedd, cysondeb, cyngherdd. Calon y bardd yn gydgerdd ag anian o'i gwmpas, yw Alawn. Mae rhai yn deilliaw y gair o llon, eraill o llawn, ac eraill o al, (uchel, ardderchog,) megys ag y deillia Alaw, Alwen, &c., o'r un gwreiddyn. Mae eraill yn golygu Alawn fel person gwirioneddol, ond ei fod yn byw cyn cof llyfr ac achau, fel nad oes goffa am dano ond ei enw a'i swydd.
"Gorug Alawn fardd Prydain
Gofrodeu cleu clodysgain,
Coel cyd celfyddyd cyfrain."
Y mae y Dr. Owen Pughe, yn ei Cambrian Biography, yn meddwl fod yn debygol mai yr un person ydoedd ag Olen, Olenus, Ailinus, a Linus, yn mhlith y Groegiaid, oddiwrth yr amgylchiad fod yr un priodoleddau yn cael eu rhoddi iddo ganddynt ag a roddir i Alon yn y Trioedd.
ALBAN. Ystyrir Alban ar lawer o ystyriaethau fel y cyntaf oll o ddilynwyr Crist, yn y wlad hon, a ymunodd ag "ardderchog lu y Merthyri." Ganwyd ef yn nhref Feriwlam yn y trydydd cant. Dywed yr hen Groniclwyr mai Prydeiniaid oedd ei rieni, ac nid ydyw yn debyg iddo newid ei enw, oblegyd y mae Alban yn enw hollol Frutanaidd. Ymrestrodd hefo byddin y Rhufeiniaid, a bu am saith mlynedd yn eu gwasanaeth milwrol. Y pryd hyn y daeth i gyfeillgarwch ag Amphibalus, yr hwn a droes yn Gristion. Wedi dychwelyd i'w dref enedigol, lle yr arosodd mewn parch ac urddas hyd nes y tores yr erledigaeth allan yn ffyrnig a distrywgar yn amser yr ymerawdwr creulon Diocletian. Yn y cyfamser dylanwadodd ei gyfaill Amphibalus yn fawr arno, a'r canlyniad fu iddo droi yn Gristion trwyadl, ac fel llawer un arall o ddisgybion y Groes dybenodd ei yrfa yn ferthyr. Nid ydyw'r hanes a ddyry Gildas o hyn ond byr: Bede, yr hanesydd eglwysig, ar y llaw arall a gofnoda'r ffeithiau yn llawer helaethach.