Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Caerfyrddin, ag a gonffirmiwyd yn Gadair Cerdd Dafod i holl Wynedd a Phowys, yn Eisteddfod gyntaf Caerwys, yn sir y Fflint. Bydded hysbys i bawb o foneddigion a chyffrediniaid, fod Eisteddfod ar wyr wrth gerdd dafawd a thant, o fewn tref Gaerwys, yn swydd Fflint, yr ail ddydd o fis Gorphenaf, yn y bymthegfed flwyddyn o goronedigaeth Harri yr wythfed, ger bron Richard ab Hywel ab Ieuan Fychan, Ysw., ac o gytundeb Syr William Gruffudd, a Syr Robert Salsbri, a thrwy bresenawl gynghor Gruffydd ab Ieuan ab Llywelyn Fychan, a Thudur Aled, bardd Cadeiriawg, a llawer o foneddigion a doethion eraill, er gwneuthur trefn a llywodraeth ar wyr wrth gerdd dafawd a thant, ac ar eu celfyddyd; nid amgen i gadarnhau a chyfrymiaw y Pencerddiaid, a'r sawl a gafas radd o'r blaen, i raddu y sawl a'i haeddai, ac i roddi i eraill ysbas i ddysgu ac i fyfyriaw yn nesaf ag y galler wrth gydwybod, ac wrth hen ystatyd Gruffydd ab Cynan. Llyma y rhai a raddiwyd yn Nghaerwys; Tudur Aled a ganiadwyd ac a gyfrymied yn athraw cadeiriawg, i arwain ariandlws, fal yr oedd er pan ei cymerasai dan ei berygl i'w ddwyn o'r lle yr oedd."—Greal.

Mae yn debygol wrth hyn i Dudur Aled gymeryd ariandlws ei ewyrth D. ab Edmwnt, a'i arwedd ar ei ysgwydd heb ganiatad rheolaidd Eisteddfod. Cadair aur neu arian oedd tlws Pencerdd Cerdd dafod, ac iddo y perthynai arwain y tlws hwnw ar ei ysgwydd, yn arwydd ei fod yn athraw o Bencerdd yn warantedig o farn Eisteddfod. Cadair Prydydd a ddengys ei awdurdod o gyfeistedd ac yngnadaeth; a phob tlws arall a ddengys gelfyddyd a'i harweiniai. Gorphwysle pob ariandlws yw llys arglwydd y cyfoeth y bo ynddo yr Eisteddfod ac yno ei dychwelir pan fo marw y Pencerdd a'i harweinio. O bydd ariandlws yn gorwedd yn segur yn ei gorphwysle briodol, yn ol gorchymyn yr athraw a'r dygiawdwr diweddaf a fu yn ei arwain, a bod Pencerdd yn clywed ei hunan yn abl i'w ddwyn wrth fraint ei gelfyddyd, ac i ateb drosto ei hun, ei chymeryd a all oddiyno, dan rybudd cyflawn un dydd a blwyddyn, yn mhob ffair, a marchnad, a llys cyfreithiawl, o fewn ei dalaeth, i ddangos ei fod yn cymeryd yr ariandlws dan ei berygl, ac yn ymadneu o hono, sef honi fod ganddo hawl i gadw meddiant o'r ariandlws a bod yn gyfrifol am dano, a rhoddi ei lawnwerth yn arian neu aur yn wystl am dano, heblaw ei radd warantedig o Eisteddfod neu neithiawr riawl. Dysgybl Pencerddaidd yn unig a allasai hawlio'r ariandlws; ac yn yr Eisteddfod nesaf a fytho byddai raid iddo ddangos ei fod yn abl i'w hadneu a'i chadw o nerth celfyddyd a gwybodau Awen. Aeth Tudur Aled drwy y defodau hyn yn rheolaidd, a chyfrymiwyd ef yn Eisteddfod Caerwys yn athraw Cadeiriawg i arwain ariandlws, ac o hyny allan i'r dalaeth ei gymeryd yn athraw yn ei gelfyddyd ef.—Greal, Rh. 2.

Pethau diweddar o waith D. ab Edmwnt a Gutyn Owain yw rheol mesurau Tudur Aled gan mwyaf, "Nid amgen na phedwar mesur ar hugain yn gynifer Cadair Cerdd Dafod, herwydd dosbarth a wnaethpwyd ar fesurau gan Ddafydd ab Edmwnt, a gwedi hyny a gonfirmiwyd herwydd y dangos arni, gan Theodor Aled, Bencerdd, yn Eisteddfod gyntaf Caerwys; a barnu yn ofer fesurau pob mesur arall, ag ni weddai i brydydd o Bencerdd eu canu a'u dangos ger bron Eisteddfod."—Cyf. y Beirdd.

Mil, pum cant, rhifant y rhed,—a rhagor
Pump ar hugain, rhodded
Yn ddeddf bwys beirdd Caerwyn ged,
Rheolau Tudur Aled
—GRUFFYDD HIRAETHOG.