AMO, yr hwn a enwir weithiau Anno, ydoedd hen sant, ac iddo ef y cyflwynwyd eglwys Llananno yn Maesyfed; ac eglwys Niwbwrch yn Môn, yr hwn le gynt a elwid Llananno.
AMPHIBALUS. Dywed Giraldus Cambrensis ac eraill mai gwr genedigol o Gaerlleon ar Wysg ydoedd, ac iddo gael ei eni yn ystod y trydydd cant. Haera eraill mai monach oedd yn perthyn i Eglwys Gadeiriol y lle ardderchog hwnw, oblegyd dyna oedd prif dref Cymru y pryd dan sylw. Hyn, fodd bynag, sydd eithaf amlwg, mai ef fu'r offeryn yn llaw Duw o ddwyn Alban i gofleidio ffydd y Groes. Yr oedd ef ac Alban yn hen gyfeillion fel yr ymddengys oddiwrth eu Bucheddau. Ni wyddis pa beth oedd ei enw cyntefig, ac ni ddyry Sieffrey o Fynwy nemawr o oleu fynag ar y peth, oblegyd math o gyfieithiad o'r un dan sylw a geir ganddo. Ar ol iddo drwy help Alban ddianc o Ferulam, dychwelodd i Gaerlleon, a phregethodd gyda grym a llwyddiant anarferol, a throes nifer mawr at Gristionogaeth, ac oherwydd y droedigaeth a gymerth le yn adeg merthyrdod Alban, ffoes tua mil o'r fan hono am nodded yn Nghymru, lle y derbyniwyd hwy i Eglwys Crist trwy fedydd gan Amphibalus. Cynhyrfodd hyn ddygasedd trigolion paganaidd eu hen gartref, fel y penderfynasant eu dilyn yn arfog, a dyfod a wnaethant nes d'od o hyd iddynt, ac yna eu cigyddio a'u darnio a wnawd. Yn mysg y cyfryw, daliwyd Amphibalus, a chludasant ef hyd o fewn rhyw dair milltir i Ferulam, ac yno llabyddiwyd ef gan y creuloniaid atgas. A thyna ran y sant disglaer hwn yn mrwydr y ffydd.—Gwel ALBAN.
AMWN DDU. Mab ydoedd i Emyr Llydaw, tywysog Graweg, yn Llydaw. Ei wraig ef oedd Anna ferch Meurig ap Tewdrig. Bu iddynt lawer o blant, y rhai y mae eu henwau yn llyfr y seintiau, nid amgen Tydecho, Samson, Tathan, Gwyndaf Hen, Pedrwn, Hywel, Alan, Difwg, Gwyddnaw, a Thegfedd eu chwaer. A thyma oedd ei wehelyth: efe a hannes parth ach o Ynys Prydain, nid amgen nag o Gynan Meiriadog, yr hwn a ymsefydlodd yn Llydaw yn amser Macsen Wledig. Plant yr Amwn Ddu a fuant yn gyff saint Enlli a Gwynedd yn y chweched cant. Chwaer i Amwn oedd Gwenteirbron mam Cadfan, blaenor Gwelygordd Emyr Llydaw. Yr oedd Garmon yn ewythr o frawd ei fam i Emyr Llydaw, ac Illtud farchog yn gefnder iddo: ac yn nglŷn a'r cenhadon ymroddgar hyn yr ymgyssegrodd plant Emyr i efengylu yn mysg ein hynafiaid di-ffydd. Dywedir i Amwn Ddu ymneillduo ac arwedd bywyd meudwyol, ac mai mewn ynys gerllaw i Llanilltyd Fawr y trefai, hyd nes iddo fyned yn mhellach o dwrf y byd i ryw ddiffeithle annghysbell. Ond odid mai yn Mawddwy yr oedd y lle hwn, oblegyd y mae yno hyd heddyw le a adwaenir wrth yr enw Cell Fawddu neu Gell Amwn Ddu. Tydecho ab Amwn Ddu ydyw sant cyfryngol holl eglwysi'r cymydogaethau hyn. Crybwyllir i Anna ddilyn ei gwr i'r lle anhygyrch, ac iddo adeiladu eglwys yno; a Samson eu mab a gysegrodd yr unrhyw. Bernir iddo gael ei gladdu yn Llanilltyd Fawr. Gellir tybied fod Llan-y-mawddwy wedi cael ei henwi oddiwrtho yn gystal ag oddiwrth ei fab Tydecho: oblegyd gelwir hi weithiau yn Llandudech yn gystal a Llan-y-mawddwy, sef yw hyny:—Llan-amwn-ddu.
ANARAWD oedd fab hynaf Rhodri Mawr, yr hwn oedd dywysog teyrnasol holl Gymru, yr hon, ar ei farwolaeth yn y flwyddyn 876, a ddosranodd rhwng ei dri mab. Y rhan a gafodd Anarawd oedd Gwynedd neu Ogledd Cymru; cafodd Cadell y Deheubarth, neu