Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ddeheudir Cymru, a chafodd Merfyn, Powys. Bu yn anmheuaeth yn hir, pa un ai Cadell ai Anarawd oedd y mab hynaf. Geilw Dr. Owen Pughe, Cadell yn hynaf, yn ei Cambrian Biography; felly hefyd y gwna Price yn ei Hanes Cymru, tu dal. 392, ond yn tu dal. 397, gelwir Anarawd yr hynaf, Darfu i'r ddadl hon achlysuro i Vaughan o Hengwrt, yr hynafiaethydd enwog, i gyfansoddi traethawd, o dan yr enw, "British Antiquities revived," yr hwn a argraffwyd yn Rhydychain, 1662, yn 4 plyg, ac ailargraffiad yn y Bala yn 1834, yn 4 plyg. Ymddengys y profir yn llawn yn hwn mai Anarawd oedd yr hynaf, a'i fod yn meddu blaenoriaeth awdurdod ar ei frodyr. Pa fodd bynag, nid coron ysgafn a fu yr eiddo ef, gan ei fod mewn rhyfeloedd gwastadol â'r Sacsoniaid Yn y flwyddyn 880, yr ymladdodd efe frwydr Cymryd, ger tref Aberconwy, yn sir Gaernarfon, ac y gorchfygodd y Sacsoniaid gyda lladdfa fawr, a dialodd farwolaeth ei dad, yr hwn a laddwyd yn Môn. Gelwir y frwydr hon, mewn hanesion Cymreig, "Dial Rhodri." Y mae ei deyrnasiad yn hynod hefyd am ymfudiaeth y Brutaniaid Gogleddol yn y flwyddyn 890, y rhai, oblegyd eu gwasgu gan eu gelynion, a adawsant Strathclwyd, ac a dderbyniwyd yn lletygar gan Anarawd, yr hwn a roddodd iddynt diroedd yn siroedd Dinbych a Fflint, ar yr amod fod iddynt yru ymaith y Sacsoniaid a gymerasant feddiant o honynt, yr hyn a gwblhawyd yn foddhaol. Yn y flwyddyn 892, aeth Anarawd i mewn i diriogaethau ei frawd yn y Deheubarth, y rhai a ddistrywiodd trwy dân a'r cleddyf. Yn y flwyddyn 900, bu farw Cadell, yr hwn cyn hyny a ddygodd Bowys dan ei lywodraeth, ac felly daeth Anarawd yn dywysog teyrnasol holl Gymru, a theyrnasodd hyd ei farwolaeth yn y flwyddyn 913, pan y gadawodd ar ei ol dri mab, Idwal Foel, Elis, a Meurig. Y mae Cadell, Anarawd, a Merfyn, yn cael eu henwi yn y Trioedd, fel y "Tri Heiyrn taleithiawg" Ynys Prydain.

ANDRAS ap Rhys Dremrudd ap Brychan Brycheiniog oedd yn ei flodau yn y pumed cant, ac efe oedd sant gwarchodol Llanandras neu Andreas, sef yn awr Dinas Powys.


ANDRAS, neu Andryw, mab i Ceryn, yn ol y Brutiaid, a gafodd deyrniaeth Prydain ar ol ei frawd Eidal, ac a ddilynwyd gan ei fab Urien.


ANDRAS, neu Andros, oedd yr enw a ddodid yn chwedloniaeth ein hynafiaid ar yr au dduwies Mallen. Priodolid gweithredoedd cyffelyb iddi hi ag a briodolai y Groegiaid i'w ffug—bersonau Hecate, eu Bellona, a'u Enyo, hwythau. Dywedai Coel Gwlad fod iddi farch hefyd a elwid "March Malen," ar gefn yr hwn, credid, y byddai lledrithwyr a dewiniaid yn cyflym deithio mor wyrthiol ar hyd a lled y ddaear yn y dyddiau gynt. Oddiar yr ofergoel hon y tarddodd y ddiareb, "A gasgler ar Farch Malen, tan ei dor ydd â: neu a eniller trwy ddewiniaeth, diles a difantais fydd. Dywedir y byddai'r hen Frutaniaid yn aberthu ebyrth dynol i Andras; a thystiolaetha Dion ddarfod i Buddug cyn ymladd â'r Rhufeiniaid weddio ar Andras am ei melldith arnynt. Gelwid hi weithiau "Y Fall," Mam y Drwg," a'r "Hen Wrach;" ac y mae ei henw ar Lafar Gwlad hyd y dydd hwn, canys dywediadau a glywir yn fynych ydynt "Chwareu'r Andros," yr hyn ydyw ymddwyn yn nwydwyllt a chynddeiriog; "mae yr Andros ynddo," sef y mae drygioni ynddo; a'r "hen Andros" sydd air arall am y diafol. Fel hyn y mae tarddiad llawer o'n hymadroddion mwyaf cyffredin yn nghanol ofergoeledd ein hynafiaid.