Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sef tywysog neu frenin beirdd. Nis gwyddom pa beth a gynhyrfodd Eiddyn i daraw y bardd yn ei ben â bwyall rhyfel, na pha flwyddyn y cymerodd hyny le, ond hyny yw y traddodiad am ei farwolaeth.

Sylwn ychydig yn mhellach ar nodwedd ei farddoniaeth. Cynwysa y Gododin dros 900 o linellau o wahanol hyd, ac ar wahanol fesurau. Rhenir y cwbl, yn ol argraffiad Llanymddyfri, dan olygiad Ab Ithel, i 97 o benillion, neu adranau. Nid oes yno ddim adliw cynghanedd oddigerth o ddamwain; ond cedwir yr odl yn weddol ofalus. Mae'r mesurau yn amrywio; dechreuir gyda gorchanau ar y gyhydedd bedeirsill a phumsill yn gymysg. Wedi hyny, gorchanau o naw ban yn y penill, a'r llinellau yn naw a deg sill o hyd. Weithiau ceir hupynt, bryd arall fforchawdl, yna traethodl, &c. Gellid meddwl pe cawsid y gân yn ei chyflwr cyntefig, cyn ei hacru gan adysgrifenwyr, ei bod yn gyfansoddiad cywrain a gorchestol iawn. Tebygol mai arwr y gân yw Owain ab Urien, yr hwn oedd yn ei flodeu, ar "farch mwth myngfras," a'i darian ysgafn-lydan, a'i gleddyf gloewlas, a'i wisg o bân, a'i yspardynau o aur, yn myned i'r maes. Ato ef y cyfeirir feallai yn "Cu cyfaillt Owain!"

Bwriodd Owain ab Urien
Y tri thwr yn Ngattraeth hen;
Ofnodd Arthur fel goddaith
Owain, ei frain, a'i ffon fraith.
—L. G. COTHI.

Tybir yn gyffredin fod y Cymry yn myned i'r frwydr yn feddwon; ac y mae amryw fanau yn y Gododin fel yn awgrymu felly, megis

Gwyr a aeth Gattraeth oedd ffraeth y llu,
Glasfedd eu hancwyn a'u gwenwyn fu.
Gwin a medd o aur fu eu gwirawd.
Gwyr a grysiasant, buant gydnaid,
Hoedl fyrion, meddwon uwch medd hidlaid.

Ond tebycach mai wedi eu sirioli gan win a medd yr oeddynt, ac nid wedi eu meddwi yn ystyr ddiweddar y gair. Amcan y bardd ydyw cyferbynu eu llawenydd wrth gychwyn i'r frwydr â'r galanastra a'u cyfarfyddodd yno, ac nid nodi meddwdod y fyddin fel yr achos o'u dinystr.

Heblaw'r Gododin, priodolir darnau eraill i Aneurin, sef Gwarchan Adebon, Gwarchan Cynfelyn, a Gwarchan Tudfwlch. Barna rhai mai gorcheiniaeth a feddylir wrth "gwarchan" gan y Cynfeirdd, a'u bod yn fath o ddewiniaid; ond y mae'n fwy naturiol i ni dybied mai gorchanau a olygent, sef mesurau elfenol a syml. Cysylltir Englynion y Misoedd âg enw Aneurin; ond y mae beirniadaeth a chraffder yr oes hon yn gwrthod y dyb hono. Saif Aneurin yn uchel yn ngolwg y Beirdd yn mhob oes. Dymunai D. Benfras yn 1200 am awen

I ganu moliant mal Aneurin—gynt
Dydd y cant Ododin.

Risierdyn yn 1300 a ddywedai

Tafawd un arawd Aneurin—gwawdglaer.

Sefnyn yn 1350 a ddywedai

Medd cyhoedd miloedd molawd—Aneurin.

Mae beirdd y canoloesoedd yn cydnabod Aneurin yn enwog brif-fardd o'r cynoesoedd, yr hyn sydd yn arwyddo fod y Gododin yn eiddo dilys iddo.

ANNA. Gwraig Amwn oedd hi, a gweddus ei galw yn fam seintiau, ac ymddengys ei bod hithau, fel ei phlant, yn gweithio o lwyrfryd