gyfieithu gan L. Anwyl, ficer Abergele." Yr oedd ef yn offeiriad plwyf Ysbytty Ifan, sir Ddinbych, yn 1740; symudwyd ef i ficeriaeth Abergele yn 1742; ac yno y bu farw, a chladdwyd ef yn eglwys y plwyf hwnw Chwefror 27ain, 1776.
ANWYL (PARCH. EDWARD), gwr a gymerodd ran lafurus a blaenllaw yn sefydlu lluaws o achosion y Cytundeb Wesleyaidd yn Nghymru. Ganwyd ef yn Ebrill, 1786, yn Ty'nllan, Llanegryn, Meirion. Ei rieni oeddynt Owen ac Ann Anwyl. Yr oedd annuwioldeb yn uchel iawn ei ben yn yr ardal hono yn ystod ieuenctyd Anwyl, ac yntau mor hoff o rusedd ag un c'i gyfoedion. Eithr yn 1804, daeth cenadon i'r Wesleyaid ar ymweliad a'r ardal, sefydlasant yno eglwys fechan, ac yn fuan cawn ef yn ymuno â hi. Yna efe a fwriodd ei holl enaid wrth draed ei grefydd. Y pryd hwnw, yr oedd pregethwyr yn anaml; a chyrddau gweddio yn aml a dymunol; ac yn y cyrddan hyn y daeth gallu meddyliol Anwyl gyntaf i'r amlwg. Hyn a barodd i'w frodyr ei anog i arfer ei ddawn trwy roddi gair o gynghor yn awr ac eilwaith. Anogwyd ef drachefn i ddechren pregethu; eithr yr oedd o natur mor wylaidd fel na fynai ymgymeryd â'r fath waith hyd oni argraffwyd ar ei feddwl ei fod yn peryglu iachawdwriaeth ei enaid trwy guddio ei dalent yn y ddaear. Yr oedd oedd efe wedi derbyn addysg ragorol. Traddododd ei bregeth gyntaf yn nghapel bychan Abergolwyn, yn Ionawr, 1808; ac yn Awst y flwyddyn hono galwyd ef allan i'r weinidogaeth amdeithiol. Maes cyntaf ei lafur oedd Ynys Mon. Yn Awst canlynol symudodd i Gyldaith Caernarfon; ac yn 1810 i Gylchdaith Caerphili. Bu yno am ddwy flynedd, a symudwyd ef i Langollen; a thrwy ei eondra meddwl, bu yn foddion yno i ddarostwng llawer pechod penuchel. Yn 1814, symudwyd ef i Gyldaith Merthyr, ac yn y flwyddyn hono, priododd Miss Matthews, Trelai, Morganwg; bu iddynt un—ar—ddeg o blant, a threuliasant fywyd dedwydd am y cyfnod hirfaith o un mlynedd a deugain.
Dyn tal, teneu, esgyrniog, oedd Mr. Anwyl, yn meddu cyfansoddiad corphorol cryf annghyffredin, onide nid allasai byth gyflawni y gwaith mawr a gyflawnodd. Tan ei amgylchiadau ef, yr oedd yn ofynol i ddyn fod yn gerddwr rhagorol cystal ag yn bregethwr da. Dywed ei fywgraffydd yn yr Eurgrawn ddarfod iddo un Sabbath bregethu dair gwaith mewn gwahanol fanau, a cherdded 72 milldir; ac iddo ei glywed yn cwyno un tro ei fod yn teimlo braidd yn stiff wedi cerdded y dydd o'r blaen o Lanidloes yn Maldwyn i Trelai yn Morganwg—pellder o dros 80 milldir.
Yr oedd efe yn meddu ysbryd boneddigaidd a diabsen; ei gasbeth oedd ymosodiadau llechwraidd hystyngwyr enllibus; a llawer ergyd drom a roddodd efe gyda'i ddawn parod i'r cyfryw. Un o'i brif neillduolion oedd parodrwydd ei ddawn, ac yn ngwyneb ymosodiad ar rai o'i egwyddorion, gwnai ddefnydd effeithiol o'r gyneddf hon. Pan oedd ef yn teithio ar Gylchdaith Rhuthyn a Dinbych, ac yn myned i'w daith un diwrnod, cyfarfyddodd ag ef enau cyhoeddus perthynol i enwad arall, yr hwn a'i hanerchodd mewn dull trahausfalch, ac a ddywedodd fod ganddo ef eisiau ei holi. "Felly yn wir," ebai yntau, ond y mae gan yr Apostol Paul lawer gwell cynghor i'w roddi i chwi na hyny "Beth yw hyny?" ebai'r gwr dyeithr. "Holed dyn ef ei hun," ebai yntau, ac aeth ei wrthwynebydd ymaith yn ddystaw wedi cael mwy nag a ddymunasai. Bu Mr. Anwyl yn ddarllenwr mawr ar hyd ei oes, yn enwedig ar