Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

freninodd a dalent iddo warogaeth, ac a addurnent ei lys. Ethold y catteyrn, nid o ran helaethrwydd ei diriogaeth, lluosogrwydd ei ddeiliaid, neu urddasoldeb ei fonedd; ond oherwydd ei gadbwyll, ei wroldeb, a'i fedrusrwydd mewn rhyfel. Nid o hawl, ond o ddewisiad y penaethiaid eraill, y penodid un i'r swydd. Nid ymddengys fod teyrnas neu diriogaeth Arthur ei hun mewn un modd yn helaeth; ac nid yw hyd yn nod y rhamantau, y rhai a'i dyrchafant ef uwchlaw holl freninoedd a rhyfelwyr y byd, yn awgrymu rhyw lawer fod y diriogaeth yr oedd ganddo hawl etifeddol iddi yn eang ei therfynan; ond sylfaenir ei gled a'i ogoniant yn benat ar ei gadernid a'i wroldeb, ac ar ei fedr mewn rhyfel a chatteyrredd. Ymddengys, gan hyny, mai mewn rhyfel yn unig yr oedd ef yn frenin cyffredinol. Cyffelyb oedd ei sefyllfa a'i awdurdod ef i sefyllfa ac awdurdod Agamemnon yn ngwarchae Caerdroia. Brenin ar dalaeth fechan Mycena oedd hwnw yn ngwlad Groeg; ond yr oedd, o ddewisiad cyffredin y penaethiaid eraill, yn frenin breninoedd o flaen muriau anhydor Ilion.

Pa flwyddyn yr etholwyd Arthur i arwain cyfluoedd ei wlad yn erbyn gorddwy a gormes y Saison, nid yw hanesyddion yn cwbl gytuno. ol y Dr. W. O. Pughe, yn y fl. 517 y digwyddodd; ond yn ol Whittaker, yn 508. Yr hanesydd cyntaf sydd yn son am Arthur yw Nennius; ac i'r gwr hwn yr ydym yn ddyledus am y gofrestr gyflawnaf o'i orchestion milwraidd. Yr oedd Nenuius yn byw yn yr 8fed ganrif; ac y mae yn awr ar gael un llawysgrif o'i waith cyn hyned a'r 10fed ganrif, seť o fewn i bedwar can' m ynedd i amser Arthur, a mwy na chan' mlynedd cyn amser Gruffydd ab Arthur, ar yr hwn y tadogir nid ychydig o'r chwedlau yn nghylch y gwron. A ganlyn yw tystiolaeth Nennius am Arthur, ac am y brwydrau a ymladdwyd ganddo:

"Y pryd hwnw [gwedi son am Hengist], yr ymladdodd y rhyfelgar Arthur, yn nghyda milwyr a breninoedd Prydain, yn eu herbyn hwynt [y Saison], ac er bod amryw yn ardderchocach nac ef, eto bu ddeuddeg gwaith yn dywysog rhyfel, ac yn orchfygwr y brwydrau. Y frwydr gyntaf yn ei herbyn a ymladdodd gerllaw yr afon a elwir Glain (Glein, Glem, Glevi, Gleni). Yr ail, a'r drydedd, a'r bedwaredd, a'r bumed, ar afon arall, yr hon yn y Frythoneg a elwir Dulas (Duglas, Dubglas), yr hon sydd yn ardal Linnius (Linius). Y chweched frwydr a fu wrth yr afon a elwir Bassas (Lusas). Y seithfed frwydr a ymladdodd yn eu herbyn yn Nghoed Celyddon, hono yw Cad Coed Celyddon (Cat Coit Celidon). Yr wythfed frwydr a ymladdodd yn erbyn y Barbariaid gerllaw Castell Gwynion (Gunnion, Guinnon, Guinon, Guin), yn yr hon cludodd Arthur ar ei ysgwyddau ddelw Croes Crist, a'r Santaidd Fair, y Wyryf wastadol; a'r holl ddiwrnod hwnw y gyrwyd y Paganiaid i gilio; llawer a syrthiasant; a lladdfa fawr a wnaethpwyd arnynt, trwy rinwedd ein Harglwydd Iesu Grist, a'i fam santaidd Ef. Y nawfed frwydr a ymladdodd ef yn Ninas y Lleng, yr hon, yn iaith y Brython, a elwir Caerlleon. Y ddegfed frwydr a ymladdodd ef ar lan afon a elwir Rhybrwyd (Ribroit, Trathtreuroit) Yr unfed frwydr ar ddeg a fu yn y mynydd a elwir Bregwyn (Creguoin), lle y gyrwyd hwynt ar ffo, yr hon yr ydym ni yn ei galw Cad Bregwyn (Cat Bregion, Agued Cathregonnon, Cathregomion). Y ddeuddegfed frwydr, a hono o'r fath ffyrnicaf, a ymladdodd Arthur yn Mynydd Badon, yn yr hon y syrthiodd yn yr un amser naw cant a deugain o wŷr, trwy ei ruthr ef ei hun, heb neb o'r Prydeiniaid yn ei gynorthwyo. Yn yr holl frwydrau rhagenwedig, mynegir ei fod ef yn fuddugol bob amser, fel y