bu amryw eraill o filwyr y Prydeiniaid. Eithr nid oes un dewrder na challineb a lwydda yn erbyn ewyllys Duw. Po mwyaf a leddid o'r Saison mewn brwydrau, mwyaf oll y chwanegid atynt o'r Almaen gan Saison eraill, yn ddibaid; a hwy a wahoddasant freninoedd a blaenoriaid atynt oddiwrth yn agos yr holl ardaloedd hyny. A hyn a wnaethant hyd yr amser y teyrnasodd Ida."
Y cyfryw yw yr hanes, megys y ceir ef yn ngwaith Nennius. Y inae cryn amrywiaeth yn enwau y lleoedd a'r afonydd hyn yn y gwahanol ysgriflyfrau (fel y dangosir uchod yn yr enwau sy rhwng crymfachau), fel nad yw yn hawdd gwybod på ffurf yw yr agosaf at gywirdeb; y mae yn anmhens hefyd am rai ohonynt på leoedd a olygir wrthynt; ac y mae'r dysgedigion yn gwahaniaethu yn ddirfawr gyda golwg ar y manan hyn: ond nid yw yn perthyn i amlinell o fath yr ysgrif hon, ymchwilio i'r naill na'r llall o'r pethau hyn. Nid oes nemawr o ddadl i fod yn nghylch y brwydrau, gan nad pa le yr ymladdwyd hwynt. Crybwylla Llywarch Hen (neu rywun dan enw y bardd hwnw) am un arall o frwydrau Arthur, yr hon a ymladdwyd yn Llongborth:
"Yn Llongborth llas i Arthur
Gwyr dewr, cymmwynynt a dur;
Amherawdr, llywiawdr llafur.'
Sonia Llywarch Hen am frwydr arall a ymladdwyd ganddo ar lan yr afon Llawen:
"Gwen with Lawen ydd wylwys neithwyr:
Arthur ai thechas
Aer a drawdd ar glawdd glas.
"Gwen wrth Lawen ydd wylwys belthwyr,
A'r ysgwyd ar ei ysgwydd:
A chau ba mab ym', bu hywydd.
"Gwen wrth Lawen ydd wyllis neithwyr,
A'r ysgwyd ar ynguis;
Can bu mab ym', ni ddiengls.
"Ond tybia rhai mai yr un yw y frwydr hon â'r frwydr gyntaf yn nghofres Nennius, ac felly mai yr un afon yw Llawen a'r Glain a grybwyllir yno. Sonia Gildas hefyd a Beda, ac eraill, am frwydr Mynydd Badon, a ymladdwyd yn erbyn Cerdig, blaenor y Saison, yr hon yw yr olaf yn nghyfrif Nennius; a chyfeiria Cynddelw, ac eraill o feirdd y canoloesoedd, ati gydag edmygedd. Ni chytunir yn hollol pa flwyddyn yr ynladdwyd y frwydr bwysig hon. Gesyd amryw haneswyr hi yn y flwyddyn 520; ond y mae yr Annales Cambria yn ei gosod mor gynar a 516. Dywed Gildas i'r frwydr hon gael ei hymladd yn y flwyddyn y anwyd ef; er nad yw ef, mwy na Beda, yr hwn oedd yn byw yn yr 8fed ganrif, yn son am Arthur wrth ei enw. Y mae y ffaith mai Sais oedd Beda, ac felly yn elyn i Arthur ac i'r genedl y perthynai iddi, yn ddigon o reswm am ei ddystawrwydd ef yn nghylch y gwron; ac er y cyfrifir Gildas yn Gymro, nid yw y gwaith sydd yn myned dan ei enw yn dangos nemawr o hynawsedd tuag at y Prydeiniaid, mwy na phe buasai wedi ei ysgrifenu gan rywun o estron genedl. Nid oes cymaint ag un wreichionen o wladgarwch yn ganfyddadwy yn holl lyfr Gildas; ac ni fedrai ef ganfod dim ond beian y bobl yr ysgrifenai yn eu cylch. Tybia llawer mai ffug yw y gwaith a briodolir iddo.
Y frwydr nesaf y mae genym hanes am dani, a'r olaf a ymladdodd Arthur, yw brwydr hygof ac alaethus Camlan. Ymladdwyd hou, tel yr ydys yn cyfrif yn gyffredin, yn y flwyddyn 542; ond, yn ol yr Annales Cambria, y rhai a gyfrifir gan rai yr awdurdod creu ar bethau