Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwaith Arderydd, a wnaethpwyd o achaws yr ehedydd: a'r drydedd oedd waethaf oll, sef oedd hono Camlan; a hono a wnaethpwyd o gyfrysedd Gwenhwyfar a Gwenhwyfach. Sef achaws y gelwid hwynt yn ofergadau, wrth eu gwneuthur o achaws mor ddiffrwyth â hwnw." (Cyfres i. 47.)

"Tair gwrdd balfawd Ynys Prydain:—Palfawd Metholwyd Wyddel ar Franwen, merch Llyr; yr ail balfawd a darewis Gwenhwyfach ar Wenhwyfar, ac o achaws hono y bu waith Camlan wedi hyny; a'r trydydd a darewis Golyddan Fardd ar Gadwaladr Fendigaid. (Cyfres i. 87.) Ond awgrymir mewn un arall o'r Trioedd hyn, ddarfod i Arthur roddi palfawd i Fedrawd, yn gystal a Gwenhwyfar i Wenhwyfach.

"Tri anfad balfawd Ynys Prydain:—Palfawd Matholwch Wyddel ar Franwen, merch Llyr; a phalfawd Arthur ar Fedrawd; a phalfawd Gwenhwyfar ar Wenhwyfach." (Cyfres i. 51.)

Oddiwrth y Trioedd hyn, yn gystal ag oddiwrth hanesion ereill, y mae yn amlwg ddigon i Fedrawd amcanu meddiannu yr orsedd a'r llywodraeth, pan oedd Arthur yn absennol ar ryw ryfelgyrch yn erbyn gelynion ei wlad. Geil! rhai o'r manylion yn y Trioedd fod yn chwanegion at y gwir, er mwyn addurn a rhamant; ond nid ymddengys un achos i anmheu y gwirionedd syml. Prin y medrai ysgrifenwyr y canoloesoedd adrodd un hanes heb ymgais at ei addurno a'i wellhau. Y mae pawb rhesymol yn cytuno ddarfod i Arthur gyfarfod â'i ddiwedd yng Nghad Gamlan; ac mai bradwriaeth Medrawd ei nai a fu yn achos o'r gâd gelaneddog hono. Cyfeiria'r beirdd yn fynych at drychineb alaethus y maes hwnw.

Llawer lef druan,
Fal ban fu'r Gamlan —GRIFFYDD AB YR YNAD COCH

A'm bu barid dadgan,
Adgygleu Camlan,
Adwelir griddfan
Ac anfyn gwynfan. —Y Fug-DALIESIN.

Un am fro Alan, elfydd can,
A Ffrainc yn frawddus fal Camlan —LLYWAROH &B LLEWELYN,

Lliw ten y gad Gamlan gynt -DAFYDD ab GWILYM.

Arthur o'i ddolur oedd wan,
Ac o ymladd Cad Gamlan —LEWIS GLYN COTHI.

Edwart wych a'r dur-wnew tan,
Gydag ymladd Gad Galan—OWAIN AB LLYWELYN MOEL,

Cael ar faes, coelier y fan,
Cadw ac ymladd Cad Gamilan —TUDUR PENLLYN.

Maneg aur, pan ymwonynt,
Llun yn Llan Gad Garlan gynt —DAFYDD AB EDMWND.

Brau cai ymladd brig Camlan,
Braisg wyd ym mysg y pysgod man —SION CERI

Nid yw sefyllfa Camlan yn hysbys. Gesyd rhai hi yn Ngogledd Lloegr, ac ereill yn y Gorllewin; ond y mae pwys y tebygolrwydd yn ddiau o blaid y Gorllewin yn hytrach na'r Gogledd; a thybia llawer mai yn agos i dref bresenol Camelford, yn Nghernyw, ar lan yr afon Camel neu Alan, yr hon, yn ol Camden, a elwid gynt Camblan, y cafod y frwydr ei hymladd. Y mae Camlan yn enw pur gyffredin yn Nghymru hyd heddyw.

Felly y syrthiodd y cadnerthol Arthur, trwy fradwriaeth gadarn un o'i gyfneseiliaid; a chydag ef y syrthiodd annibyniaeth Ynys Prydain.

Nid estrawn fu ei distryw,
Ond trefwr gwladwr—a glyw!
Ym mhob oes, er croes, er crain,
BADWYR a friwient Brydain.—GWALLTER MECHAIN.