Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a thri mis drachefn yn ei hoff fynachlog. Pan aeth i Loegr yr oedd y brenin yn aros mewn lle o'r enw Leonford, a phan gyrhaeddodd yno cafodd ei dderbyn yn y modd serchusaf a mwyaf cyfeillgar. Arosodd yno am wyth mis, medd rhai, am flwyddyn medd eraill, yn darllen Ilyfrau da o lyfrgell y brenin. A'r nos Nadolig gyntaf iddo yn y llys, rhoes Alfred iddo fynachlog fawr ac ysplenydd Amesbury yn waddol, yn nghyda lle o'r enw Bonuwille, neu Banwell, yn Ngwlad yr Haf, ac hefyd pall (nen wisg offeiriadol) o sidan gostus, a chymaint ag a fedrai dyn gario'n faich o arogl-darth. Yn fuan ar ol hyn, rhoed eglwys Caeresg iddo, ac yn union gwnaed ef yn esgob Sherburn. Y mae tipyn o anghytundeb yn y croniclau o barth i'r digwyddiad olaf hwn. Myn rhai na fu ond esgob mewn enw yn unig, tra y maentumia eraill iddo fod yn y swydd dros dro, ac yna ei rhoddi ymaith gan gadw ond yr enw yn unig. Ymddengys iddo fyw y rhan fwyaf o'i oes rhwng y fynachlog a'r llys, mewn parch ac urddas arbenig yn y naill a'r llall. Yr oedd Alfred Fawr yn bur hoff o lenyddiaeth, ac yn honi bod yn awdwr o gryn fri. Cyfieithodd "Fugeilegion ysprydol St. Gregory," ac yn ei lythyr rhagarweiniol i'r llyfr a enwyd, y mae'n talu gwarogaeth i Asser am y cymhorth a dderbyniodd ganddo. Dywed rhai, er hyny, nad oedd a wnelai Alfred Fawr yn gymaint â'r llyfr ag oedd a fynai Asser ag ef; ac nad oedd y brenin, ond fel llawer un o'i flaen ac ar ei ol hefyd o ran hyny, ond ymhonwr yn byw ar waith rhai eraill, ac mai Asser oedd y dyn mewn gwirionedd. Fodd bynag, nid oes dadl nad oeddynt eu deuoedd yn gyfeillion pur. Rhoes Alfred yn ei lythyr cymun amryw roddion i Asser, ac ysgrifenodd yr esgob hanes Bywyd y brenin, yn yr hwn y ceir golwg ar y wedd y byddai'r ddau yn treulio eu hamser pan fyddent yn nghyd. Y mae'r llyfr yn dangos chwaeth a medr arbenig, ac yn brawf fod mynach Tŷ Ddewi yn ysgolor coeth. Argraffwyd y llyfr am y tro cyntaf yn y flwyddyn 1574, a daeth o leiaf ddau argraffiad wed'yn ohono, sef un yn y flwyddyn 1683, o dan olygiad y dysgedig Camden, ac un arall yn Rhydychain yn 1772. Ymddengys fod gan Asser ddylanwad mawr iawn hefo'r brenin ac mai ef a fu'r offeryn penaf i beri i Alfred noddi Prif Ysgol Rhydychain. Barna rhai fod yno fath o Fangor cyn hyn, ac nas gwnaeth Asser ond medru helaethu a chynyddu'r hen waddoliadau, a pheri yni newydd yn null athrawus y lle. Hyn sydd amlwg, i ddiwygiad trwyadl gymeryd lle yn y drefn o addysgu, gan i Asser ranu'r gwahanol wyddorion o dan eu penau neillduol, sef Gramadeg neu ieithoedd, y Celfau, a Difinyddiaeth. Asser ei hun a fu'n dysgu Gramadeg a Rheitheg; John, mynach o Dŷ Ddewi, a hyfforddiai mewn seryddiaeth a daearfesuriaeth; ac un arall o'r enw Ioan, o Dŷ Ddewi eto, a ddysgai Resymeg, Musig a Rhifyddiaeth: tra'r oedd Difinyddiaeth o dan arolygiad Neotus a Grimbald. Dyna ddechreuad adferol yr Athrofa ysplenydd hon, a hyny o dan lygaid ac yn nglyn ag enw plant athrylithgar Gwyllt Walia. Bu farw ar ol oes bir o les a daioni yn y flwyddyn 906, a thyna fel y dywed Brut y Tywysogion: OED CRIST 906; y bu farw Asser ddoeth archesgop y Brytaniaid," a thaera llawer iddo fod yn archesgob Tŷ Ddewi am ddwy flynedd, sef o'r pryd y bu farw Gorchwyl hyd adeg ei farwolaeth ei hun. Nid oes fawr o le i anmheu, fel y profa awdwr hanes ei fywyd yn y Biographia Britannica, nad yr un person oedd Asser y Mynach, Asser yr Esgob, ac Asser "Archesgop y Brytaniaid." Yr unig beth o bwys a welaf fi ydyw fod Croniel y Saeson yn gosod ei farwolaeth yn y flwyddyn 910, ond yn