Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mrut y Saeson dyma'r hyn a ddywedir.—" Anno ixe vi., y bu varw asser archesgop y bruthanyait." Ysgrifenodd Asser gryn lawer o lyfrau, medd rhai, ac nid oes dim llawer o ddadl yn mysg neb nad efe oedd awdwr y llyfrau canlynol. 1. "Life of King Alfred." 2. "Annales Britannice." 3. "Aurearum Sententiarum Enchiridion." 4. "A Book of Homilies." 5. "A Commentary on Boethius." 6. "A Volume of Letters." Ofer ydyw myned dros yr haeriadau moelion a ddygodd rhai dros eu cred mai yr un oedd efe a'r Bardd Glas o'r Gadair, a Geraint Fardd Glas, oblegyd ni feddant ar ddim seiliau i'w coelion. Deuir ar ei draws yn ei le priodol.


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Athrwys ap Meurig
ar Wicipedia

ATHRWYS, a elwir hefyd Athrius ac Adras; mab ydoedd i Meurig ab Tewdrig, brenin Morganwg. Efe a ddilynodd ei dad i frenhiniaeth Gwent a Morganwg oddeutu'r flwyddyn 575. Camgymerodd rhai ef am yr enwog frenin Arthur, oherwydd tebygolrwydd enw y ddau i'w gilydd. Mab iddo ef oedd Morgan Mwynfawr, yr hwn a'i dilynodd fel brenin, ac oddiwrth y Morgan hwn y cafodd Morganwg ei henw. Gadawodd Athrwys diroedd i eglwys Llandaf; gwelir copi o roddiad y tiroedd hyny yn y Liber Landavensis.—Wms. Em. Welsh.


AUBREY (SYR JOHN, BAR.), D.C.L., yr hwn a gynrychiolodd sir Buckingham ryw hyd yn y senedd, ac wed'yn dros wahanol fwrdeisdrefi. Penodwyd ef yn arglwydd y Llyngeslys yn 1782, ac yn arglwydd y Trysor neu Ganghellydd yn 1783, yr hon swydd a roes i fynn yn 1789. Bu farw Mawrth 1af., 1826, pan oedd yn cael ei ystyried yn dad y Senedd; a'i nai ef, brawd hynaf i Thomas Aubrey, Ysw, yw y barwnig presenol. Y mae y teulu yn awr wedi gadael hen drigfa Gymreig ei hynafiaid, Llantryddyd, yn mro Morganwg, i syrthio yn adfeilion, gan fod ganddynt ddau balas arall yn Lloegr.— Burke's Peerage and Baronetcy. Meyrick's Donne's Heraldry.


AUBREY, (WILLIAM), LL.D., oedd yn deilliaw oddiwrth Syr Reginald Aubrey, a gynorthwyodd Bernard de Newmarch i ddarostwng y Cymry, ac a gafodd diroedd Abercynfig a Slough fel ei ran o'r anrhaith. Yr oedd Dr. Aubrey yn broffesydd o'r gyfraith yn Rhydychain, yn un o gynghor y Terfynau, ac yn un o feistriaid yr Ymofynion i'r frenines Elizabeth. Ei wraig oedd Welliford, ferch i John Williams o Tainton. Bu farw Gorph 23ain, 1595. Efe ydoedd boncyff—dad yr Aubreyaid o Lantryddyd, yn sir Forganwg, trwy i'w fab ieuangaf, Syr Thomas Aubrey, briodi Mary, ferch ac aeres i Anthony Mansel, Ysw., o'r lle hwnw; a mab i hwnw, Syr John Aubrey, oedd yn byw yn Llantryddyd yn amser y rhyfel gwladol, a'r weriniaeth, ac a fu yn neillduol o aiddgar dros y deyrniaeth, nid trwy gymeryd arfau o blaid y Siarliaid, eithr trwy noddedu, yn ei balas yn Llantryddyd, holl gyfeillion y deyrniaeth, a ystyrid wedi eu hymddifadu o fywioliaeth, yn enwedig gwyr eglwysig, trwy eu troi o'u lleoedd, o blwyfau neu golegau. Yr oedd palas Llantryddyd fel math o goleg y pryd hyny, gan nifer gwyr o ddysg a ymdeithient yno. Yno y cafodd yr archesgob Usher nodded, gyda'i deulu, pan y gorfu arnynt adael Castell Caerdydd,—lle yr oedd mab-yn-nghyfraith yr archesgob yn llywodraethu―ac yr ymosodwyd arnynt yn arw gan y werin, pan oeddynt yn ceisio tynu tua Chastell St. Donets, am nodded. Fel gwobr am ei letygarwch i wŷr ei blaid, darfu i Siarl II., agos cyn gwybod ei fod yn safadwy ar ei orsedd, ei greu Gorph. 23ain, 1660, yn Farwnig. Bu Syr John Aubrey, y trydydd Barwn, yn aelod Seneddol dros Gaerdydd, a'r hwn a fu farw yn 1743. Gorwyr i hwnw oedd Thomas Aubrey, Ysw., a fu