Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

YM MOSTYN A DINBYCH.

YN mhen o ddwy i dair blynedd wedi yr amser a nodwyd ddiweddaf[1], ymgymerais â swydd bwysig y weinidogaeth, a gadewais ardal hoffus fy ngenedigaeth, byth i ddychwelyd i gyfaneddu ynddi mwy, y mae yn debygol. Gyda chalon drom y cenais yn iach y diwrnod hwnnw i lannau Aled, a bryniau Hiraethog. Dychymygwn fod yr afon, wrth ymdreiglo danaf pan yn croesi y bont, ar gwrr isaf pentref Llansannan, yn sisial cydymdeimlad â mi, ac yn murmur ei ffarweliad olaf; a bod Bron Llywelyn, a'r Foel Bengam, ar Fynydd Hiraethog, yn gwisgo "y niwl oer yn alarwisg," ar achlysur fy ymadawiad. Teimla y meddwl ryw ddirgel fwynhâd rhyfedd mewn gwneuthur cyfeillion dychymygol o'r mynydd, a'r bryn, a'r afon— mannau y buasai yn mynych gymdeithasu âg ef ei hun, ac âg anian, ger eu llaw, ac ar hydddynt. Yr oeddwn y pryd hwnnw hefyd yn gadael nifer o gyfeillion hoff, cymdeithion a chynghorwyr fy ieuenctid, i fyned i gyfaneddu i fysg dieithriaid, ac i ganol golygfeydd dieithrol. Yn Heol Mostyn yr oeddwn yn cyfnewid glan yr afon am lan y môr; a rhodfeydd grugog y mynydd am rodfeydd coediog parc Mostyn; y cymdeithion o'm cwmpas oeddynt y ceirw, yr ysgyfarnogod, a'r pheasants, yn lle y defaid, y rugiar, a'r gylfinhir; swn dwndwr a phrysurdeb y gwaith glo, yn lle tawelwch y maes, y bugail, a'r amaethydd. Er hynny, ymgymodais â'm

  1. Wedi Eisteddfod Dinbych yn 1828.