sefyllfa newydd yn lled fuan, a daethum i hoffi yr ardal a'r trigolion yn fawr; ac y mae yn dra hoff gennyf hyd heddyw am ardal a phreswyl— wyr Mostyn. Treuliais yma yn agos i chwe blynedd o amser dedwydd, a llwyddiannus hefyd i raddau; ac y mae adgofion y blynydd— oedd hynny yn felus gennyf.
Ni chafodd yr awen ond ychydig o gymdeithas fy meddwl yn ystod fy nhrigias yn Mostyn. Ychydig o ganiadau byrion—y gân ar "Gwymp Babilon," yr hon a ymddangosodd yn y Gwladgarwr; y gân ar "Ymadawiad y Cenadau o Madagascar," yr hon a ymddangosodd yn y Dysgedydd; "Marwnad y diweddar Barch. J. Roberts, o Lanbrynmair," yr hon a ymddangosodd yn ei "Gofiant;" ac ychydig gyfieithiadau o'r Seisoneg—oedd yr oll a gyfanoddais yn y blynyddoedd hynny. Ar ddechreu y flwyddyn 1837, symudais i a'm teulu i Ddinbych, i gymeryd gofal yr Eglwys Annibynol yn Lôn y Swan, wedi marwolaeth fy nghyfaill hybarchus a hoff, y Parch. D. Roberts. Yn ystod yr amser y bûm yn trigo yno y cyhoeddwyd "Cofiant y diweddar Barch. William Williams, o'r Wern," a'r "Traethawd ar Grefydd Naturiol a Dadguddiedig." Yr Hiraethgan yn niwedd y Cofiant ydyw un o'r darnau mwyaf boddhaol gennyf o'm holl gynhyrchion awenyddol; ac nid rhyfedd hynny, canys yr oedd ei gwrthddrych gennyf yr hawddgaraf a'r anwylaf o ddynion.