A hen adgofion ym mhob glyn
Am ddewrder Cymry gynt.
Mae llynges Prydain ar y môr
Yn ben llynghesau'r byd,
Gall Prydain gau ac agor dôr
Yr eigion ar ei hyd;
Mae llawer Cymro ar ei bwrdd
A chalon fel y llew,
Yn barod ar bob pryd i gwrdd
A'r gelyn mwyaf glew;
Ni gadwn undeb calon,
Gyda modrwy aur y gwir,
Tra fyddo modrwy loew'r môr
Yn amgylchynu'n tir;
Os rhaid, ni godwn gleddyf dur,
Ac unwn yn y gâd
Dros ryddid hoff a chrefydd bur,
A gorsedd aur ein gwlad.
Mawrth, 1877.
DYFODIAD YR HAF
Mi glywais fronfraith yn y llwyn
Yn canu bore heddyw,
A dwedai yn ei hanthem fwyn,—
"Mae'r gaeaf wedi marw."
Tra cana'r fronfraith beraidd glôd,
Mae'r haul yn gwenu'n llon uwchben,
A'r briaill mân wrth fôn y pren
Yn edrych fyny tua'r nen,
I weld yr haf yn dod.