DALEN CYFAILL.
Nis gallaf alw'r ddalen hon
Yn ddalen i athrylith,
Ni hoffwn fritho'i gwyneb llon
A gweigion eiriau rhagrith;
Addurno'u dail âg ysgrif hardd
Adawaf i rai ereill,
Os caf fì alw dalen bardd
Yn ddalen cywir gyfaill.
Paid byth a meddwl, gyfaill mwyn,
Am gyfeillgarwch trylen,
Y gall yr awen byth ei ddwyn
I bennill ar un ddalen;
Na, na, mae cyfeillgarwch byw
Yn uwch, yn îs ei syniad,
Mae'n hirach, lletach, dyfnach yw
Na holl ddalennau'r cread.
Ond un peth yn y ddalen hon
Sy'n hynod debyg iddo,
Mae'n berffaith wyn a phur ei bron
Cyn i fy llaw ei britho;
Peth arall yn y ddalen wen
A ddeiì gymhariaeth eto,
Mae cyfeillgarwch pur fel llen
Yn hawdd i weled trwyddo.
Gall llaw ddiystyr ddod ryw dro
I rwygo hyn o ddalen,
Pan fyddwn ni ein dau'n y gro
Heb fywyd, gwres, nac awen;